Leinster 45-9 Scarlets

Leinster a Scarlets Image copyright Inpho

Fe wnaeth Leinster ddychwelyd i frig y Pro12 gyda buddugoliaeth oedd yn cynnwys pwynt bonws yn erbyn y Scarlets.

Fe groesodd y mewnwr Luke McGrath ddwywaith cyn yr egwyl ond cadwodd y Scarlets o fewn cyrraedd, 12-9, diolch i dair cic gosb gan Dan Jones.

Agorodd y bwlch wedi'r hanner gyda Rhys Ruddock yn gwthio dros y llinell a dau gais I Joey Carbery.

Fe wnaeth yr eilydd Ed Byrne ychwanegu at y sgôr ac roedd yna gais hefyd i Jamison Gibson-Park gyda symudiad ola'r gem.

Golygai'r canlyniad fod Leinster yn dychwelyd i frig y Pro 12 gyda bwlch o ddau bwynt dros y Gweilch sy'n ail.