Aildroseddu difrifol: Galw am gyhoeddi adroddiadau

  • 6 Mawrth 2017
Rhys Barnes, 28 Image copyright Wales News Service
Image caption Fe fydd Rhys Barnes yn treulio o leiaf 26 mlynedd yn y carchar

Fe ddylai canlyniadau ymchwiliadau i droseddau difrifol gan droseddwyr sydd newydd eu rhyddhau o'r carchar gael eu cyhoeddi er mwyn sicrhau fod gwersi yn cael eu dysgu, medd gwleidyddion ac undebau sy'n cynrychioli swyddogion y gwasanaeth prawf.

Daw'r alwad yn sgil adolygiad i lofruddiaeth Rhys Jones a gafodd ei ladd gan ddyn oedd newydd ei ryddhau o'r carchar

Mae'r adroddiad yn cwestiynu a ddylid fod wedi ailasesu risg y llofrudd i'r cyhoedd pan gafodd ei ryddhau.

Cafodd Mr Jones, 36 oed, ei drywanu i farwolaeth gan Rhys Barnes yn Nhachwedd 2015 mewn hostel lle'r oedd y ddau yn byw yng Nghasnewydd.

Image caption Roedd gan Rhys Jones sgitsoffrenia ac roedd wedi bod dan ofal y gwasanaethau iechyd meddwl

Cafodd Barnes, 28, oedd a hanes o droseddu treisgar, ei garcharu am oes ym Mawrth 2016.

Ar adeg y llofruddiaeth roedd yn cael ei oruchwylio gan y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol ar ôl cael ei ryddhau o'r carchar. Roedd hynny ar ôl iddo gael ei asesu yn risg uchel i'w deulu ac yn risg canolog i'r cyhoedd.

Bu'n rhaid iddo ddychwelyd i'r carchar ddechrau Tachwedd am iddo dorri amodau trwydded, ond pum diwrnod ar ôl dod allan eto fe lofruddiodd Rhys Jones.

Mae adolygiad o'r digwyddiad yn holi a ddylai lefel risg Barnes i'r cyhoedd wedi cael ei ailasesu, ac a ddylid fod wedi cynnal cyfarfod o'r asiantaethau sy'n ymwneud â diogelwch y cyhoedd.

Yn ôl yr adroddiad fe ddylai staff ystyried cyfeirio carcharorion sy'n torri amodau eu trwydded at lety neu loches (sydd wedi cael sêl bendith y gwasanaeth prawf) ar ôl eu rhyddhau.

Cafodd casgliadau'r adolygiad eu rhannu gyda staff led led Cymru.

Image caption Mae tad Mr Jones, Daryl (ar y dde) yn dweud fod gan deuluoedd hawl i wybod beth ddigwyddodd i'w hanwyliaid

Ond bu'n rhaid i deulu Mr Jones bwyso am gael gweld yr adroddiad ar ôl clywed ar y dechrau na fyddai o fudd iddynt ei weld.

Dywedodd David Hanson, AS Delyn, ac aelod o bwyllgor dethol ar gyfiawnder yn San Steffan ei bod yn bwysig fod teuluoedd a'r cyhoedd yn gwybod beth aeth o le mewn achosion o'r fath.

"Mae hynny'n golygu fod yn rhaid i'r adroddiad gael ei gyhoeddi, hynny ar gyfer dioddefwr ond hefyd ar gyfer fel pobl fel fi sydd â diddordeb mewn sicrhau fod y drefn yn gweithio."

Un arall sy'n galw am ryddhau'r wybodaeth yw John Griffiths, AC Dwyrain Casnewydd.

Galw am gysondeb

"Mae angen bod yn agored er mwyn sicrhau hyder y cyhoedd, os yw pobl yn meddwl fod pethau yn cael eu cuddio mae hynny'n achosi pryder ac amheuaeth."

Daw galwad y gwleidyddion a'r undebau am gyhoeddi adolygiadau, ar ôl i'r awdurdodau ddweud bod yna oedi yn y cynlluniau i symud rheolaeth adolygiadau o'r fath i wasanaeth Arolygaeth Prawf ei Mawrhydi.

Fe wnaeth Tania Bassett, swyddog gyda Chymdeithas Genedlaethol Swyddogion Prawf, alw ar y llywodraeth i gadw at eu haddewid i symud rheolaeth adolygiadau o'r fath o'r gwasanaeth prawf i Arolygaeth Prawf ei Mawrhydi.

"Byddwn yn canmol hynny oherwydd byddai'n golygu mwy o gysondeb yn y system, a byddai'n golygu fod corff annibynnol yn edrych ar yr ymchwiliad a byddai mwy o dryloywder i'r cyhoedd. "

Dywed y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol: "Mae troseddau difrifol fel hyn y brin ond mae pob un yn cael eu cymryd o ddifri ac yn cael eu hymchwilio yn llawn.

"Ein blaenoriaeth yw diogelwch y cyhoedd. Cafodd adolygiad llawn ei gynnal, ac fe wnaethom weithredu ar y casgliadau."