Damwain angheuol ar yr A470

A470 Image copyright Google

Mae un person wedi marw ac un arall wedi ei anafu yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A470 ger Coed y Brenin, Dolgellau.

Cafodd yr heddlu eu galw am 14:00 ar ôl adroddiadau fod Renault Megane wedi bod mewn gwrthdrawiad.

Cafodd y ffordd ei chau gyda thraffig yn cael eu dargyfeirio ac mae'r heddlu yn chwilio am dystion i'r digwyddiadau.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu gar heddlu ar 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod V031151.