Diffoddwyr yn brwydro yn erbyn tân yn Llanelwedd

  • 6 Mawrth 2017
Llanelwedd Terrace Image copyright Google

Mae dros 30 o ddiffoddwyr wedi bod yn ceisio rheoli tân mewn tŷ yn Llanelwedd, Powys.

Bu chwech o griwiau wrthi am bum awr yn ceisio rheoli'r tân yn y tŷ pedwar llawr yn Nheras Llanelwedd.

Daeth y crywiau o Lanfair-ym-muallt, Llandrindod, Llanwrtyd, Rhaeadr Gwy, Talgarth ac Aberystwyth.

Does dim adroddiadau fod unrhyw un wedi ei anafu