Hoci iâ: Devils Caerdydd yn ennill y Cwpan Her

  • 6 Mawrth 2017
Devils Caerdydd Image copyright Wales News Service

Fe wnaeth tîm hoci iâ Devils Caerdydd drechu Sheffield o 3-2 nos Sul i ennill y Cwpan Her am yr ail waith mewn tair blynedd.

Sgoriodd Gleason Fournier i roi'r Devils ar y blaen ar ôl pedwar munud cyn i Robert Dowd ei gwneud yn gyfartal.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen trwy Mathieu Roy ond roedd hi'n gyfartal unwaith eto wedi i Mark Louis sgorio i Gaerdydd.

Layne Ulmer sgoriodd y gôl fuddugol, gan olygu bod Devils Caerdydd yn ennill y Cwpan Her am y trydydd tro yn eu hanes.

Daeth y canlyniad ar ddiwedd penwythnos llwyddiannus i dîm Todd Kelman, wedi iddyn nhw fynd naw pwynt yn glir ar dop y Gynghrair Elît gyda buddugoliaeth dros Fanceinion ddydd Gwener.