Llai o gyfle i ddysgwyr 'gael eu trochi yn y Gymraeg'

  • 7 Mawrth 2017
Felicity Roberts a Jaci Taylor Image copyright Felicity Roberts a Jaci Taylor
Image caption Mae Felicity Roberts (chwith) a Jaci Taylor yn wynebau cyfarwydd fel tiwtoriaid Cymraeg yn ardal Aberystwyth

Mae tiwtor Cymraeg i oedolion ers 50 mlynedd wedi dweud wrth Cymru Fyw bod ei gwaith yn "fwy anodd" bellach gan nad yw dysgwyr yn cael cymaint o gyfle i "gael eu trochi" yn yr iaith.

Dywedodd Felicity Roberts fod "cymunedau lle mae'r Gymraeg yn gryf yn gymhelliant cryf iawn i bobl fod eisiau dysgu'r iaith", ond fod nifer y cymunedau hynny wedi gostwng dros yr hanner canrif diwethaf.

Ar y llaw arall, meddai, mae "ymwybyddiaeth" o sefyllfa'r iaith wedi cynyddu, ac mae datblygiadau technolegol wedi gwneud gwaith tiwtoriaid yn llawer mwy hwylus.

Bydd Ms Roberts a Jaci Taylor, tiwtor Cymraeg arall o ardal Aberystwyth, yn cael eu gwobrwyo am gyfraniad oes i'r Gymraeg mewn seremoni arbennig nos Fawrth.

'Syndod braf'

Eleni fydd y tro cyntaf i Brifysgol Aberystwyth, sydd wedi trefnu'r Gwobrau Dydd Gŵyl Dewi, gydnabod unigolion yn benodol am eu cyfraniad i'r iaith.

Mae Felicity Roberts, yn wreiddiol o Chwilog ger Pwllheli, wedi bod yn dysgu Cymraeg i oedolion yn Aberystwyth ers 1968, ac mae Jaci Taylor, sydd o Birmingham yn wreiddiol, hefyd wedi bod yn diwtor ers 1984.

Dywedodd Ms Roberts ei bod hi wedi dod fel "syndod braf" i'r ddwy gael eu gwobrwyo gyda'i gilydd, a'i bod yn "braf teimlo bod eich ymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi".

Mae'r ddwy wedi cydweithio ers yr 1980au, gan sefydlu mudiad Cyd gyda'i gilydd yn ogystal a throi eu sylw at sawl menter arall gan gynnwys cynnal Eisteddfod y Dysgwyr yn Aberystwyth, a sefydlu'r Ganolfan Cymraeg i Oedolion yn y brifysgol yn 2006.

"O ystyried hyn i gyd rwyf yn falch ac yn ei weld yn beth priodol fod gwaith y ddwy ohonom yn cael ei gydnabod," meddai.

"Mae proffil uchel i'r anrhydeddau hyn y mae'r brifysgol yn eu cyflwyno, ac mae hynny yn sicr o feithrin mwy o barch at y Gymraeg a'r gwaith a wneir i roi cyfle i bawb yng Nghymru feistroli iaith gynhenid y wlad, a chael cyfranogi yn llawn o'r holl fanteision sydd o fod yn ddwyieithog ynddi."

Image caption Bydd gweddill enillwyr y gwobrau, sydd wedi'u trefnu gan Brifysgol Aberystwyth, yn cael eu cyhoeddi nos Fawrth

O'i gymharu â phan ddechreuodd hi fel tiwtor Cymraeg i oedolion maen nhw bellach yn cael tipyn o gefnogaeth gan y llywodraeth a'r prifysgolion, meddai, yn ogystal â chymorth y datblygiadau technolegol.

"Heddiw rydym wedi'n hamgylchynu ag adnoddau o bob math i'n cynorthwyo yn y gwaith," meddai.

"Dwi wrth fy modd yn gallu defnyddio pwerbwynt, deunydd sain a deunydd gweledol oddi ar y we neu DVD, a'u plethu i mewn i'm gwaith dysgu."

Wedi dweud hynny, meddai, mae'r gostyngiad yn nifer y cymunedau naturiol Gymraeg dros yr hanner canrif diwethaf, wrth i bobl ddi-Gymraeg symud i ardaloedd traddodiadol Gymraeg a Chymry Cymraeg iaith gyntaf symud i ffwrdd, wedi creu heriau.

"Mae cymunedau lle mae'r Gymraeg yn gryf yn gymhelliant cryf iawn i bobl fod eisiau dysgu'r iaith," esboniodd.

"O safbwynt hyn mae'n gwaith ni'n fwy anodd, ac mae'r cyfleoedd i bobl gael eu trochi yn yr iaith yn fwy anodd i'w canfod.

"Fodd bynnag, mae'n hymwybyddiaeth o sefyllfa'n hiaith fel cenedl wedi codi, ac mae yna ymdrechion bwriadol sylweddol yn cael eu gwneud i'w diogelu drwy fynd ati'n fwriadol i greu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg mewn gwaith a hamdden."