Cwpan Cyprus: Merched Iwerddon 1-0 Merched Cymru

  • 6 Mawrth 2017
Jess Fishlock Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Jess Fishlock yw un o chwaraewyr mwyaf profiadol y garfan

Mae tîm pêl-droed Merched Cymru wedi colli i Weriniaeth Iwerddon yn eu gêm grŵp olaf yng Nghwpan Cyprus.

Aeth y Gwyddelod ar y blaen ar ôl 22 munud diolch i ergyd gan Katie McCabe, wedi i Jess Fishlock a Charlie Estcourt fethu cyfleoedd cynnar i Gymru.

Penderfynodd y rheolwr Jayne Ludlow i eilyddio tair o'r chwaraewyr ar yr egwyl wrth geisio dod â'r sgôr yn gyfartal, ond lwyddon nhw ddim i unioni pethau.

Mae'n golygu bod Cymru'n gorffen yn ail yn y grŵp, ar ôl trechu Hwngari a sicrhau gêm gyfartal yn erbyn y Weriniaeth Tsiec.

Byddan nhw nawr yn wynebu'r Alban ar ddiwrnod terfynol y gystadleuaeth ddydd Mercher i benderfynu pwy fydd yn gorffen yn bumed a chweched.

Straeon perthnasol