Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Ddinbych

loggerheads Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger pentref Loggerheads

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth wedi i ddyn farw mewn gwrthdrawiad ger Yr Wyddgrug dros y penwythnos.

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi derbyn adroddiad brynhawn Sul bod car BMW llwyd wedi ei ganfod mewn clawdd ar Ffordd Rhuthun yn Loggerheads, Sir Ddinbych.

Fe ddaethon nhw o hyd i ddyn lleol wedi marw yn y car, ac maen nhw'n credu i'r gwrthdrawiad un cerbyd ddigwydd tua 19:30 y noson gynt.

"Rydyn ni'n apelio ar unrhyw un allai fod wedi gweld y BMW llwyd yn teithio ar yr A494 o Lanferres i gyfeiriad Yr Wyddgrug cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â ni," meddai'r Sarjant Nicola Collins o'r uned blismona ffyrdd.