Llofruddiaeth Y Fflint: Dyn yn gwadu cyhuddiadau

  • 6 Mawrth 2017
Stephen Hough (dde) Image copyright Andrew Price
Image caption Stephen Hough (dde) yn cael ei arwain i'r llys ym mis Medi 2016

Mae dyn 58 oed wedi gwadu treisio a llofruddio merch ysgol yn Y Fflint yn 1976.

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug fe blediodd Stephen Hough yn ddieuog i dri chyhuddiad - o dreisio a llofruddio Janet Commins o'r Fflint, ac un ymosodiad rhyw difrifol.

Cafodd y troseddau honedig eu cyflawni rhwng 5 a 12 Ionawr, 1976.

Ymddangosodd Mr Hough yn y llys dim ond i gadarnhau ei enw a gwadu'r cyhuddiadau.

Mae disgwyl i'r achos ddechrau yn yr wythnos nesaf.

Image copyright Heddlu Gogledd Cymru
Image caption Cafodd Janet Commins, 15 oed, ei threisio a'i llofruddio ym mis Ionawr 1976