Cynhadledd gan y Cyngor Mwslimaidd i drafod eithafiaeth

coleg Image copyright Coleg Caerdydd a'r Fro
Image caption Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro

Bydd cynhadledd yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ddydd Mawrth i drafod sut i fynd i'r afael ag eithafiaeth dreisgar.

Mae disgwyl i'r gynhadledd ganolbwyntio ar sut all y llywodraeth fod o gymorth wrth ddelio gyda throseddau casineb, y dde eithafol, a herio pobl sy'n dymuno cymryd rhan mewn terfysgaeth.

Bydd siaradwyr o grwpiau ymgyrchu, prifysgolion ac elusennau yn bresennol yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro.

Mae'r digwyddiad wedi ei drefnu gan Gyngor Mwslimaidd Cymru i nodi sut y dylai cymdeithas ymateb i fygythiadau eithafiaeth.