Abertawe yn hyderus fod cytundeb dinesig £1.3bn yn barod

abertawe Image copyright Cyngor Abertawe

Mae arweinydd Cyngor Abertawe yn hyderus y bydd cytundeb dinesig gwerth £1.3bn yn barod i'w lofnodi gan Lywodraeth y DU yr wythnos hon.

Mae Cytundebau Dinesig yn gweld ardaloedd yn cael arian mawr i fuddsoddi, a rhaid i ddinasoedd wneud cais am y cyllid.

Dywedodd y cynghorydd Rob Stewart na allai'r cyngor "fod mewn sefyllfa well" i gytuno ar y fargen a allai fod yn werth miliynau o bunnoedd dros y 15 mlynedd nesaf.

Ond mae ffynonellau o Lywodraeth y DU wedi awgrymu ei bod hi'n bosib na fydd y fargen yn cael ei chadarnhau yng nghyllideb y canghellor ddydd Mercher.

Morlyn y bae

Ni fydd gwifrau traws-Iwerydd oedd wedi eu disgwyl, fyddai'n darparu mynediad sydyn iawn i'r rhyngrwyd ar gyfer y rhanbarth, yn rhan o'r fargen fodd bynnag.

Bydd y gwifrau yn gynllun ar wahân, ond yn un cyflenwol, meddai Mr Stewart.

Wrth gael ei gyfweld flwyddyn yn ôl, fe bwysleisiodd cadeirydd Rhanbarth Dinas Bae Abertawe, Syr Terry Matthews, bwysigrwydd y sianel gyfathrebu o Efrog Newydd i Lundain drwy ranbarth de orllewin Cymru.

Ond dywedodd Mr Stewart fod gosod y gwifrau yn brosiect ar wahân - yn yr un modd â chynllun y lagŵn a phrosiectau ynni yn y ddinas - ac felly yn eilradd i'r fargen yn hytrach nag yn uniongyrchol yn rhan o'r fargen ddinesig.

Mae'r fargen yn cynnwys 11 o brosiectau gwahanol sy'n anelu at gefnogi "diwydiannau'r genhedlaeth nesaf" drwy wella technolegau rhyngrwyd ar gyfer y sector ynni yn y rhanbarth.

Image caption Yr Arglwydd Heseltine yn cyfarfod tîm Cytundeb Dinesig Bae Abertawe

Mae Mr Stewart yn gwadu'n gryf fod y pwyslais wedi symud i ffwrdd o'r weledigaeth o greu "arfordir y rhyngrwyd".

"Er mwyn cyflawni'r mathau o newid economaidd yr ydym am weld yn y rhanbarth, mae'n rhaid i ni fwrw ymlaen â'r bumed genhedlaeth o dechnolegau modern," meddai Mr Stewart.

"Rydyn ni wedi bod yn glir iawn am hynny ac mae Syr Terry Matthews a'i bartner busnes o Wesley Clover, Simon Gibson, wedi bod yn rhan annatod wrth ddod a hyn at ei gilydd.

"Maen nhw'n gallu dangos bod y model y maent wedi cyflwyno yn llwyddiannus yng Nghanada, maent wedi creu 22,000 o swyddi yno ac rydym yn credu y gallwn wneud y math yma o beth yn y rhanbarth yma."

'Cefnogaeth eang'

Dywedodd Mr Stewart bod cyfarfodydd cadarnhaol iawn wedi eu cynnal gydag Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, a'r Arglwydd Heseltine, sy'n ymgynghorydd i'r Ysgrifennydd Llywodraeth Leol a Chymunedau.

"Cyn belled ag yr ydym yn y cwestiwn, rydym wedi ateb yr holl gwestiynau a ofynnwyd i ni gan swyddogion y Trysorlys ac rydym yn teimlo ein bod ar y pwynt lle rydym yn barod i arwyddo," meddai wrth BBC Cymru.

Dywedodd bod £673m o fuddsoddiad preifat yn barod i ddod i mewn i'r rhanbarth ac roedd gan y cynllun "gefnogaeth sylweddol" gan ystod eang o'r sector breifat.

Ond er i'r canghellor Philip Hammond ddweud yr wythnos diwethaf ei fod yn gobeithio cadarnhau'r fargen ddinesig erbyn y gyllideb, mae un AS sy'n agos i'r broses wedi dweud bod angen mwy o waith arni cyn iddi gael ei chwblhau.

Dyw hi ddim yn glir chwaith a fydd morlyn Bae Abertawe, sydd wedi ei chymeradwyo gan adolygiad y llywodraeth ond ddim yn rhan o'r cytundeb dinesig, yn cael ei gymeradwyo yn y gyllideb.