Ugain o gantorion yn cystadlu am deitl Canwr y Byd

  • 7 Mawrth 2017
Fe fydd cystadleuaeth Canwr y Byd yn cael ei chynnal ym mis Mehefin
Image caption Fe fydd cystadleuaeth Canwr y Byd yn cael ei chynnal ym mis Mehefin

Mae cystadleuaeth Canwr y Byd y BBC yn cael ei lansio, gyda 20 o gantorion clasurol ifanc yn cystadlu am wobr o £15,000.

Yn cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth eleni fydd y soprano 30 oed o Fae Colwyn, Sioned Gwen Davies.

Bydd cynrychiolwyr o Loegr, yr Eidal, Mongolia a'r Unol Daleithiau yn cystadlu yn y rownd derfynol.

Bydd y gystadleuaeth o 11-18 Mehefin yn cynnwys cyngherddau yn Neuadd Dewi Sant.

Image copyright James Glossop
Image caption Sioned Gwen Davies yn perfformio opera'r Mikado yn 2016

Mae Ms Davies yn un o raddedigion ysgol gerdd a drama y Guildhall yn Llundain, ac wedi perfformio gyda'r Scottish Opera yn ddiweddar, yn ogystal â'r cwmni Sbaenaidd, Valladolid Opera.

Mae hi hefyd yn gyn-enillydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn yr Eisteddfod Ryngwladol.

Bydd enillydd y brif wobr yn derbyn £15,000 yn ogystal â Thlws Caerdydd.

Y soprano o Felarws, Nadine Koutcher, ennillodd y teitl yn 2015.

Lansiwyd y gystadleuaeth gyntaf yn 1983 fel man cychwyn ar gyfer gyrfaoedd cantorion clasurol ifanc.