Y Frenhines yn urddo Syr Bryn Terfel ym Mhalas Buckingham

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Syr Bryn Terfel: Urddo yn 'hwb enfawr'

Mae'r canwr opera Bryn Terfel wedi ei urddo'n farchog gan y Frenhines mewn seremoni ym Mhalas Buckingham ddydd Mawrth.

Wedi ei fagu ar fferm ym Mhant Glas yn Nyffryn Nantlle, mae Syr Bryn wedi cael ei urddo'n farchog am ei wasanaethau i gerddoriaeth.

Ar ôl y seremoni, dywedodd bod cael ei urddo yn "hwb enfawr".

Mae Syr Bryn yn un gantorion mwyaf adnabyddus y byd opera, ac yn sylfaenydd Gŵyl y Faenol, gafodd ei chynnal rhwng 2000 a 2010.

'Llysgennad i gerddoriaeth'

"O'n i'n falch i gychwyn bod gen i ddiwrnod rhydd yn yr ymarferion", meddai ar ôl cael ei urddo.

"Dwi'n canu ar y funud yn y Tŷ Opera Brenhinol yn Covent Garden - rhan enfawr Hans Sachs yn y Meistersinger [opera gan Richard Wagner].

Image caption Roedd meibion Syr Bryn - Deio, Morgan a Tomos - yn bresennol yn y seremoni yn Llundain

"Roedd y Frenhines yn gwybod yn sicr 'mod i'n ei berfformio, achos roedd hi'n gofyn sut ar y ddaear mae rhywun perfformio am chwe awr.

"Ond o ran [bod yn] llysgennad i gerddoriaeth a hybu Cymru, mae bod yn farchog - dwi wedi gweld dros y chwe mis diwethaf - yn hwb enfawr."

Roedd aelodau o deulu Syr Bryn hefyd yn bresennol yn y palas ddydd Mawrth.