Syr Bryn: Urddo yn 'hwb enfawr'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Syr Bryn Terfel: Urddo gan y Frenhines yn 'hwb enfawr'

7 Mawrth 2017 Diweddarwyd 14:50 GMT

Mae'r canwr opera Bryn Terfel wedi cael ei urddo'n farchog ym Mhalas Buckingham.

Ar ôl y seremoni ddydd Mawrth, dywedodd bod derbyn y teitl yn "hwb enfawr" iddo.

"O ran [bod yn] llysgennad i gerddoriaeth a hybu Cymru, mae bod yn farchog - dwi wedi gweld dros y chwe mis diwethaf - yn hwb enfawr," meddai.