Galw nain nain nain (a taid!)

Keith ac Eirian Rowlands gyda'u wyrion Image copyright Keith ac Eirian Rowlands
Image caption Keith ac Eirian Rowlands gyda'u ŵyr a'u pedair wyres

I lawer o gartrefi lle mae dau riant yn gweithio mae help neiniau a theidiau i hebrwng plant i'r ysgol a chyfrannu at fagwraeth eu wyrion yn allweddol.

Mae 1 o bob 4 o deuluoedd sy'n gweithio yn cael gofal plant gan neiniau a theidiau a chyda gofal plant mor ddrud mae eu help yn werth biliynau o bunnau.

Ond beth os nad ydy nain a taid yn byw rownd y gornel, yn yr un pentref, na hyd yn oed yn yr un sir â chi?

Mae na fwy nag un ffordd o gael Wil bach i'w wely, a'r ateb i nifer o neiniau a theidiau heddiw sy'n gallu fforddio gwneud ydy gadael y cartref teuluol a symud i fyw i fod yn nes at eu plant a'u wyrion er mwyn helpu.

Dyna wnaeth Keith ac Eirian Rowlands ar ôl 40 mlynedd o fyw yn Aberystwyth, lle roedd Keith wedi bod yn ddarlithydd mathemateg yn y brifysgol ac Eirian yn athrawes ac yn magu eu plant, Meinir ac Iwan.

Gyda'u plant yn cael swyddi yng Nghaerdydd ac yn setlo a dechrau cael plant eu hunain fe benderfynon nhw symud i Bentre'r Eglwys ger Pontypridd er mwyn gallu rhoi help llaw i'r plant a'u teuluoedd ifanc.

Maen nhw wedi bod yn rhan o fagwraeth eu pump o wyrion, sydd erbyn hyn rhwng 10 a 15 oed.

"Roedd galw yn dod o bryd i'w gilydd i warchod oherwydd fod y ferch-yng-nghyfraith a'r ferch wedi mynd nôl i swyddi llawn amser," meddai Keith oedd yn 64 oed pan symudon nhw.

"Ac felly yn hytrach na theithio yn ôl a mlân o Aberystwyth i Gaerdydd yn weddol aml, fe benderfynon ni yn y diwedd ei bod hi'n haws symud."

Maen nhw'n colli eu hen ffrindiau yn Aberystwyth, yr "awgyrgylch wledig" a'r môr ond maen nhw wedi llwyddo i "doddi mewn" i gymdeithas debyg iawn ym Mhontypridd drwy fod yn aelodau o'r capel yn Efail Isaf a chymdeithasau Cymraeg eraill yn yr ardal.

"O edrych nôl rwy'n falch symudon ni ar yr adeg iawn - o'n i ddim wedi ei gadael hi i fynd rhy hwyr," ychwanegodd.

Penderfyniad annisgwyl

Wnaeth Eirian erioed ystyried y byddai hi'n symud meddai ond fe gododd y syniad "yn hollol sydyn ac annisgwyl" yn ystod ymweliad â'r wyrion un tro.

"O'n i'n un o'r rhain oedd yn gweud na fydden ni byth yn mynd â dilyn y plant. Er bod ni'n agos iawn, oni byth ishe bod yn ddibynnol arnyn nhw.

"Achos ma' nhw â'u teulu eu hunen a'u gwaith eu hunen.

"Ond eto'i gyd, ma'r bonws y ni 'di cael wrth symud, gweld y plant yn tyfu a chael rhyw brofiade ychwanegol fel medru mynd â nhw i'r ysgol bob dydd - mae'n bywyd ni 'di bod yn llawn a dweud y gwir.

"Llaw ar 'y nghalon, y'n ni wedi gwneud y peth iawn.

"Mae nhw' i gyd yn yr ysgol nawr ac y'ch chi'n gweld y gofal yn lleihau.

"Beth sy'n dda yw, ni wedi gallu gweld y plant yn tyfu a bod yn rhan o'u bywyd nhw. Ac eto'i gyd y ni'n annibynnol - y'n ni'n dod nôl i'n cwtch ein hunen ar ddiwedd dydd."

I Keith, mae wedi bod yn gyfle i fwynhau amser teuluol a fethodd i raddau pan oedd yn magu ei blant ei hun: "Ar un olwg mae dyn yn eu gweld nhw'n datblygu yn agosach na'u plant eu hunan, oherwydd oni'n gweithio'n llawn amser bryd hynny ac ry'n ni'n gweld datblygiad yr wyrion yn agosach.

"Nawr mae mwy o amser 'da ni i weld yr wyrion yn datblygu."


Codi pac ... a setlo eto

A hithau yn ei phumdegau cynnar, doedd Myra Roberts ddim ar frys i ddod yn nain pan briododd ei mab hynaf, Ellis, gyda Gemma yn 2011 a setlo yng Nghastell-nedd.

Ar ôl ymddeol roedd Myra a'i gŵr, Hugh, eisoes wedi gwneud y penderfyniad i godi pac o'u cartref yn Llandrillo-yn-Rhos yng Nghonwy er mwyn teithio.

Image copyright Myra Roberts
Image caption Mwynhau gwyliau gyda'i mab Ellis, a'i wyrion, Cali a Flynn

Fe fuon nhw'n byw am gyfnodau yn Ffrainc, Sbaen a'r Alban yn gofalu am dai ac anifeiliaid pobl eraill.

Ond newidiodd y cynllun ychydig pan gyrhaeddodd yr wyrion.

"Oeddan ni'n gypsies, doedd ganddon ni ddim cartref i fyw ynddo,"meddai Myra, "so pan oedd Ellis a Gemma yn mynd i gael plentyn nathon ni benderfynu, wel pam na nawn ni fyw yn Gaerdydd.

"Oeddan ni isho base i fyw ynddo fel bod ni'n medru mynd a dwad."

Parhau i deithio a gofalu am dai oedd y bwriad, ond fe ddechreuon nhw setlo yng Nghaerdydd a mwynhau bod mor agos i'w wyrion.

Er bod Hugh a Myra bellach wedi gwahanu mae hi wedi gwneud ffrindiau da ar ôl ymuno gyda'r clwb tennis.

"Ma' amser yn fflio a ti'n setlo fewn i fyw bywyd ac oeddan ni 40 munud lawr yr M4 oddi wrth Ellis, Gemma a'r plant yn lle pedair awr o'r gogledd.

"Oni ddim isho edrych ar ôl y plant yn rheolaidd achos roedd gen i fywyd yn fan hyn ond oni wedi dweud tasan nhw'n ffonio ryw fora, faswn i'n gollwng bob dim i fod yna.

"Dwi ddim di gwneud llawar o warchod ond os dwi'n cael rhybudd mi wnai wneud ac os ydyn nhw'n styc, mi fedrai fynd draw.

"Fysan ni ddim yn gweld dim arnyn nhw tasa ni yn y gogledd."

Y gorau o ddau fyd

Image copyright Myra Roberts
Image caption Myra yn rhoi tips tennis i'w wyres, Cali

Er nad oedd Myra eisiau bod yn nain 'draddodiadol' mae hi'n meddwl y byd o'i wyrion: "Mae gen ti'r cariad 'ma sydd bron iawn yn fwy nag oedd gen ti i dy blant dy hun.

"Achos pan ti'n ifanc ac yn cael dy blant dy hun ti mor brysur yn magu'r plant ti ddim yn cael amsar i feddwl ac mae pawb yn gweithio - mae bywyd yn gwibio heibio a cyn iti droi rownd mae'r plant yn 10 oed, wedyn yn 20 oed.

"Ond rŵan ti'n cael amsar efo nhw ac mae'r cariad ti'n gael yn ôl gynnyn nhw - yr hygs ti'n gael, yr ecseitment mawr pan maen nhw'n gwbod dy fod ti'n dŵad - mae hynny werth ffortiwn."

Ond i Myra, sydd newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 60 gyda'i ffrindiau newydd sbon yn y brifddinas, mae mwynhau ei bywyd a'i rhyddid ei hun hefyd yn bwysig ac mae hi wedi gallu cael y gorau o ddau fyd wrth symud i fod yn nes at ei theulu.

"Pan nes i symud i lawr yma bum mlynedd yn ôl, oni'n nabod neb, ond dwi allan dwy neu dair gwaith yr wythnos erbyn hyn.

"Dwi wrth y modd yma, roedd o'r peth iawn i neud - pan mae'r amser yn iawn."


Nain a Taid i'r adwy

Er bod y swyddi sydd yn y de ddwyrain yn denu llawer o bobl ifanc i gyffiniau Caerdydd, a'u rhieni i'w canlyn, mae'n duedd gynyddol mewn rhannau eraill o Gymru hefyd.

Prifathro Ysgol Twm o'r Nant, Dinbych oedd Elis Jones cyn ymddeol, a'i wraig Annwen hefyd yn athrawes. Ond bellach mae'r ddau'n treulio llawer o'u hamser yn hebrwng eu hwyresau i'r ysgol gynradd yng Nghaernarfon ac yn camu i'r adwy pan fydd eu merch Manon a'i gŵr, Emlyn yn brysur gyda'u gwaith ym myd y cyfryngau.

Image copyright Manon Elis
Image caption Annwen ac Elis Jones gyda dwy o'u hwyresau, Cadi a Lois

Fe adawon nhw eu cartref teuluol ers 25 mlynedd yn Llandyrnog, Sir Ddinbych, wedi i Manon setlo yng Nghaernarfon a phan oedd yn disgwyl ei phlentyn cyntaf.

"Mi gafon ni fywyd da yno [yn Llandyrnog] ond oeddan ni'n teimlo'n bod ni'n barod i symud ac wedyn mi ddoth y teulu bach 'ma," meddai Elis Jones sydd hefyd yn ymweld â'u merch arall Gwawr, a'i phlant hithau, yng Nghaerdydd o bryd i'w gilydd.

"'Dani 'di helpu'r ddwy ohonyn nhw ar hyd eu hoes, setio cartre i fyny a gwarchod y plant - a 'dani isho g'neud.

"Mae o'n hwylus a mae o'n siwtio ni. Dani'n blino, yndan ond dani'n medru delio efo fo ar y funud - dani'n teimlo reit positif am y peth."

Gan fod Elis o Ben Llŷn yn wreiddiol - a'i fam yn dal i fyw ym Mhwllheli - ac Annwen o Sir Fôn, mae Caernarfon yn fwy canolog iddyn nhw allu cadw mewn cysylltiad gyda'u teuluoedd estynedig - ac mae'n haws i Gwawr hefyd ddod i aros a gweld pawb heb orfod teithio gormod.

Datblygu yng nghwmni Taid a Nain

I Manon, sy'n actores ar gyfres sebon Rownd a Rownd, ac Emlyn, sydd hefyd yn actor ac yn awdur, mae cael nain a thaid yn byw rownd y gornel wedi bod yn amhrisiadwy gan bod rhaid iddyn nhw weithio oriau hir ac annisgwyl weithiau.

Mae'n rhywbeth nad ydi Manon yn ei gymryd yn ganiataol.

"Fedra i, na fy ngŵr Emlyn, ddim diolch digon am yr holl help ydan ni yn ei gael ganddyn nhw yn edrych ar ôl y genod, a hynny bob wythnos o'r flwyddyn (bob dydd weithia!)," meddai Manon.

"Mae Emlyn a finna yn gweithio yn y cyfryngau, ac er ein bod wrth ein boddau gyda'n gwaith, does na ddim math o batrwm o un wythnos i'r llall. Mewn cyfnodau prysur inni, Mam a Dad sy'n mynd â'r genod i'r ysgol, yn eu nhôl nhw o'r ysgol, yn mynd â nhw i wersi nofio, dawnsio a chanu, a'u rhoi yn eu gwlâu!! Mi ydan ni mor lwcus.

"Taid ydy'r jocar sy'n mynd â nhw i'r parc ac yn chwara'n wirion efo nhw tra mae Nain yn gneud cacennau a chrempogau ac yn darllen a dysgu efo nhw. Nain hefyd sydd wedi dysgu Cadi i lefaru at yr Eisteddfod ac wedi dysgu Lois i ddeud 'r' ac 's'.

"Mae'r hwyl a'r gofal mae'r ddwy yn ei gael efo nhw yn amhrisiadwy, a gyda'n hamser ni fel rhieni mor brin ar brydiau, rydw i'n gweld y ddwy fach yn datblygu gymaint yng nghwmni Taid a Nain.

"Weithiau mi fyddai'n cael pwl o hiraeth am fy nghartref yn Llandyrnog, ger Dinbych. Ond mi ydw i'n gwneud ymdrech i gyfarfod fy ffrindiau o'r ardal yn weddol reolaidd, ac wrth gwrs, rydw i'n fwy nac ymwybodol na fedrwn ni ffonio nhw am 7.30 y bore yn Llandyrnog, tra fod Emlyn yn gweithio'n Gaerdydd, i ddeud 'Dwi di cal fy ngalw i mewn i ngwaith, rŵan!'"