Cwpan Cyprus: Merched Cymru'n colli ar giciau o'r smotyn

  • 8 Mawrth 2017
Jayne Ludlow Image copyright Getty Images
Image caption Dywedodd Jayne Ludlow y byddai'r gystadleuaeth yn paratoi'r tîm ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd ym mis Medi

Mae tîm pêl-droed merched Cymru wedi gorffen yn chweched yng Nghwpan Cyprus ar ôl colli i'r Alban ar giciau o'r smotyn.

Roedd hi'n ddi-sgôr ar yr egwyl er gwaethaf pwysau hwyr gan yr Albanwyr, a'r un oedd y stori yn yr ail hanner er i'r ddau dîm fethu cyfleoedd hwyr.

Yr Albanwyr aeth â hi ar giciau o'r smotyn, gan ennill o 6-5 wedi i Hayley Ladd ac Amina Vine fethu dros Gymru.

Yn gynharach yn y gystadleuaeth roedd Cymru wedi trechu Hwngari, cael gêm gyfartal yn erbyn y Weriniaeth Tsiec, a cholli i Weriniaeth Iwerddon yn eu gemau grŵp.