Chwe Gwlad: Dim newidiadau i Gymru i herio Iwerddon

Rob Howley Image copyright Getty Images

Dyw hyfforddwr Cymru Rob Howley ddim wedi gwneud unrhyw newidiadau i'r garfan o 23 fydd yn herio Iwerddon yn y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd nos Wener.

Mae Howley wedi penderfynu yn erbyn cyflwyno wynebau newydd, er i union yr un tîm gael eu trechu gan Yr Alban yn Murrayfield bythefnos yn ôl.

Mae'r maswr Dan Biggar a'r asgellwr George North yn cadw eu llefydd, er i nifer feirniadu eu perfformiadau diweddar.

Mae'r clo Jake Ball a'r wythwr Ross Moriarty yn dechrau hefyd, er bod Luke Charteris a Taulupe Faletau yn holliach yn dilyn anafiadau.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Ar ôl cyhoeddi'r tîm, Cennydd Davies fu'n dadansoddi'r dewis

Dywedodd Howley: "Mae 'na lawer o brofiad yn ein grŵp. Dydych chi ddim yn troi'n dîm sâl dros nos.

"Rydyn ni eisiau dangos yr hyn 'dyn ni'n gallu ei wneud, a bydd y profiad yna yn bwysig iawn yr wythnos yma.

"'Dyn ni'n gwybod bod rhaid i ni fod yn fwy didrugaredd a gwneud yn well dan bwysau, ac ry'n ni wedi bod yn gweithio ar hynny yn ystod yr wythnosau diwethaf."

Bydd y blaenasgellwr Justin Tipuric hefyd yn ennill ei 50fed cap dros Gymru nos Wener.

Gallwch ddilyn y gêm ar lif byw arbennig Cymru Fyw o 19:35 nos Wener.

Image copyright Getty Images
Image caption Bydd Justin Tipuric yn ennill ei 50fed cap dros Gymru yn erbyn y Gwyddelod

Tîm Cymru

Leigh Halfpenny; George North, Jonathan Davies, Scott Williams, Liam Williams; Dan Biggar, Rhys Webb; Rob Evans, Ken Owens, Tomas Francis, Jake Ball, Alun Wyn Jones (c), Sam Warburton, Justin Tipuric, Ross Moriarty.

Eilyddion: Scott Baldwin, Nicky Smith, Samson Lee, Luke Charteris, Taulupe Faletau, Gareth Davies, Sam Davies, Jamie Roberts.

Tîm Iwerddon

Rob Kearney; Keith Earls, Garry Ringrose, Robbie Henshaw, Simon Zebo; Jonathan Sexton, Conor Murray; Jack McGrath, Rory Best (c), Tadhg Furlong, Donnacha Ryan, Devin Toner, CJ Stander, Sean O'Brien. Jamie Heaslip.

Eilyddion: Niall Scannell, Cian Healy, John Ryan, Iain Henderson, Peter O'Mahony, Kieran Marmion, Paddy Jackson, Tommy Bowe.