Teyrnged i ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad ger Yr Wyddgrug

  • 8 Mawrth 2017
Teyrnged Image copyright Llun teulu

Mae teulu dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ar gyrion Yr Wyddgrug dros y penwythnos wedi rhoi teyrnged iddo.

Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw ychydig cyn hanner dydd ar ddydd Sul, 5 Mawrth yn dilyn adroddiadau fod car BMW llwyd wedi ei ganfod mewn gwrych ger pentref Loggerheads.

Mae'r heddlu'n credu fod Gerald George Jacob, 66 oed, wedi marw yn y gwrthdrawiad ddigwyddodd tua 19:30 ar nos Sadwrn, 4 Mawrth ar Ffordd Rhuthun.

Dywedodd ei deulu mewn datganiad fod Mr Jacob o Lanfferes wedi "byw bywyd llawn ac roedd yn ddyn unigryw, poblogaidd a chymdeithasol".

Roedd wedi ymddeol ym mis Rhagfyr 2016 ac roedd wedi bwriadu teithio'r byd gyda'i bartner Maria, meddai ei deulu.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu drwy ffonio 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod V031092.