Canghellor yn rhoi £200m ychwanegol i Gymru yn y gyllideb

  • 8 Mawrth 2017
Philip Hammond Image copyright Getty Images
Image caption Y Canghellor Philip Hammond gyda'r blwch coch enwog cyn gadael Stryd Downing am Dŷ'r Cyffredin

Mae Philip Hammond wedi cyflwyno ei gyllideb gyntaf fel Canghellor y Trysorlys yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher.

Gan fod nifer o feysydd wedi eu datganoli i Lywodraeth Cymru, doedd nifer fawr o agweddau'r gyllideb ddim yn berthnasol i Gymru, ond fe gyhoeddodd y Canghellor y byddai Llywodraeth Cymru'n derbyn £200m yn ychwanegol dros bedair blynedd.

Bydd Llywodraeth yr Alban yn derbyn £350m yn ychwanegol ac fe fydd bron i £120m yn cael ei glustnodi i Lywodraeth Gogledd Iwerddon. Ychwanegodd wrth gyhoeddi'r newyddion fod y DU "yn gryfach gyda'n gilydd".

'Dim eglurder'

Mewn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru Mark Drakeford ar Twitter: "Dal dim eglurder ar doriadau gwariant o £3.5bn y DU sydd uwch ein pennau - gallai chwalu £175m o gyllideb Cymru."

Dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur, Jo Stevens, sydd yn gyn lefarydd y blaid ar Gymru: "Felly mae'r Ysgrifennydd Cymru anweladwy wedi llwyddo i wasgu dim ond £50m y flwyddyn allan o'r Canghellor."

Wrth ymateb i gyhoeddiad y Canghellor, dywedodd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns fod y gyllideb yn "un oedd yn gweithio i bawb".

"Mae pobl Cymru'n manteisio o'r sefydlogrwydd o gael economi gref y DU tra bod y cynnydd o £200m mewn arian i Lywodraeth Cymru'n rhoi'r rhyddid i Lywodraeth Cymru i fuddsoddi yn eu blaenoriaethau", meddai.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Ymateb Susan Elan Jones, AS Llafur i'r Gyllideb

Ar ran Plaid Cymru dywedodd Jonathan Edwards AS ei fod yn siomedig nad oedd digon o bwyslais ar fuddsoddi ar gyfer yr economi, ac fe hawliodd ei fod wedi syfrdanu nad oedd Mr Hammond wedi son am y newidiadau strwythurol sydd yn wynebu'r economi oherwydd Brexit.

Mewn ymateb i'r £200m ychwanegol i Lywodraeth Cymru, dywedodd Mr Edwards fod llawer mwy'n cael ei wario ar atgyweirio adeiladau Palas Buckingham a San Steffan.

Dywedodd Mark Williams AS, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig: "Tra bo'r arian ychwanegol i Gymru i'w groesawu, nid yw'n ddigon.

"Bydd cynllun Theresa May i gymryd Cymru a'r DU allan o farchnad sengl yn gwneud difrod mawr i'r economi. Beth sy'n glir yw fedrwn ni ddim cael economi gref a Brexit caled."

'Rhyfel ar swyddi'

Dywedodd Neil Hamilton AC ar ran grŵp UKIP yn y Cynulliad: "Heddiw roeddem angen cyllideb swyddi. Yn hytrach fe gawsom ryfel ar swyddi.

"Roeddem angen cynllun synhwyrol a chredadwy i gydnabod gwerth busnes i'r economi. Ond fe wnaeth Phillip Hammond benderfynu ymosod ar yr hunan gyflogedig drwy gynyddu cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol."

Ychwanegodd y dylai'r Canghellor gwtogi ar gyllideb £12bn cymorth tramor, ond roedd Mr Hammond yn "dyrnu'r bobl hynny sydd yng nghanol ein twf economaidd".

"Wrth gwrs rydym yn croesawu setliad tecach i Gymru ond yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod yr £200m ychwanegol yn mynd at greu isadeiledd o safon ryngwladol a chwtogi'r pwysau ar ein gwasanaethau cyhoeddus ac nid gwario ar ehangu'r Cynulliad Cenedlaethol a biwrocratiaeth Llywodraeth Cymru."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Ymateb AS Plaid Cymru, Jonathan Edwards i'r Gyllideb

'Pennod newydd'

Cyn y cyhoeddiad roedd y Trysorlys wedi dweud y byddai'r gyllideb yn un fyddai'n paratoi Prydain ar gyfer "pennod newydd" yn dilyn canlyniad pleidlais Brexit i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Mr Hammond y byddai'r gyllideb - yr olaf i gael ei chyhoeddi yn y gwanwyn - yn un fyddai'n paratoi Prydain ar gyfer "dyfodol disglair".

Wrth ymateb i fanylion y gyllideb, dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y bydd y bobl mwyaf bregus yn "parhau i wynebu dyfodol ansicr."

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton o gyngor Sir y Fflint, llefarydd y gymdeithas ar gyllid ac adnoddau:

"Gall cyhoeddiad heddiw fod wedi mynd llawer yn bellach i wrthdroi llymder a'i effeithiau ar yr economi a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

"Rydym wedi cydweithio yn dda gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau nad yw'r argyfwng gofal cymdeithasol yn Lloegr yn cael ei ailadrodd yma. Fodd bynnag, mae gwasanaethau rwan yn gwegian a dim ond dwy flynedd i ffwrdd ydyn ni o wynebu argyfwng tebyg.

"Dylai unrhyw gyllid ychwanegol sydd yn cael ei wneud ar gael i gynghorau yn Lloegr gael ei adlewyrchu i gynghorau yma hefyd. Byddai hyn yn sicrhau nad yw gofal cymdeithasol yng Nghymru yn dilyn yr un trywydd enbyd. Beth sydd ei wir angen arnom ni yw ateb hir-dymor i'r problemau sy'n cael eu achosi gan boblogaeth sydd yn heneiddio gyda chyflyrau cronig."

Image copyright PA

Doedd na ddim cyhoeddiadau annisgwyl am drethi gan fod llawer o'r cyhoeddiadau wedi eu gwneud yn barod. Bydd paced o 20 o sigarets yn cynyddu 35c o 18:00 nos Fercher, ac fe fydd peint o gwrw'n costio dwy geiniog yn fwy o nos Lun. Bydd potel o wisig'n cynyddu 36c, gyda chynnydd o 34c ar jin, ceiniog o gynydd ar seidr a 10c ar botel o win.

Ymysg cyhoeddiadau eraill y Canghellor, dywedodd ei fod yn cyflwyno lleiafswm treth ar sigarets yn seiliedig ar becyn gwerth £7.35, ac ni fyddai unrhyw gynnydd mewn cynlluniau blaenorol ar drethi ar sigarets ac alcohol.

Bydd taliadau Yswiriant Cenedlaethol yr hunan gyflogedig hefyd yn cynyddu, ac mae disgwyl y bydd y rhagolygon benthyca yn gostwng i £51.7bn yn 2016.

Twf economiadd

Esboniodd Mr Hammond fod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld twf i'r economi o 2% yn 2017/18, yn hytrach na'r 1.4% oedd wedi ei amcangyfrif yn wreiddiol. Byddai'r twf yma'n gostwng i 1.6% yn y flwyddyn ganlynol ac yna chynyddu ychydig y flwyddyn wedyn i 1.7%.

Ychwanegodd fod disgwyl i chwyddiant gyrraedd 2.4% eleni, yn ôl y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Bydd hyn yn gostwng i 2.3% yn 2018 a 2% yn 2019 meddai. Byddai hyn yn cadw chwyddiant ar yr un lefel neu'n uwch na tharged Banc Lloegr o 2% am dair blynedd.

Dywedodd y Canghellor fod y rhagolygon economaidd yn parhau heb newid, ac fe gyhoeddodd nifer o fesurau i geisio lleddfu ofnau busnesau bychain yn Lloegr yn dilyn cynnydd sylweddol yn eu cyfraddau busnes, wedi'r adbrisiad diweddar.

Esboniodd na fyddai unrhyw fusnes sydd yn colli cymorth trethi busnes yn dilyn yr adbrisiad yn gweld cynnydd o fwy na £50 y mis yn eu biliau'r flwyddyn nesaf, ac fe fyddai 90% o dafarndai Lloegr yn cael disgownt o £1000 ar eu biliau cyfradd busnes.

Roedd disgwyl iddo gyhoeddi arian ychwanegol i ddelio gyda phroblemau gofal cymdeithasol yn Lloegr hefyd ac fe wnaeth hynny drwy gyhoeddi £2bn dros gyfnod o dair blynedd, gyda'r biliwn cyntaf yn dod yn 2017/18.

Cyhoeddodd fod gan Brydain ddyled o bron i £1.7tn a "phob blwyddyn rydym yn gwario £50bn mewn llogau ar y ddyled". Ychwanegodd mai'r unig gam cyfrifol i'w gymryd oedd i barhau gyda chynllun economaidd y llywodraeth.

"Ni wnawn osod baich ar ein plant gyda dyledion cynyddol", meddai.

Image copyright Getty Images

Dywedodd Mr Hammond fod y Trysorlys yn bwriadu dilyn camau er mwyn mynd i'r afael ag achosion lle'r oedd unigolion yn ceisio osgoi talu treth.

Bydd y mesurau'n cynnwys taclo camddefnydd o gynlluniau pensiwn tramor, cyflwyno taliadau Treth Ar Werth Prydeinig ar wasanaethau telegyfathrebu, a chyflwyno cosbau newydd i unigolion sydd yn osgoi talu treth ond yna'n colli achosion sydd wedi eu cymryd yn eu herbyn gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhyd.

Byddai hyn yn codi £830m meddai.

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Er ei fod wedi cyhoeddi'r bwriad i wario £23bn yn yr Hydref ar wyddoniaeth a thechnoleg, fe roddodd ychydig mwy o gig ar yr asgwrn ddydd Mercher.

Dywedodd y byddai hyn yn galluogi'r DU i gystadlu ym maes arloesedd a gwyddoniaeth. Byddai'r arian yn cynnyws £300m am dalent ymchwil - yn cynnwys 1000 o leoliadau PhD, £270m ar gyfer robotiaid, biotechnoleg a cheir di-yrrwr, £16m ar gyfer hwb 5G technoleg symudol a £200m ar gyfer band eang hynod gyflym.