Ken Rees: UKIP yn gobeithio 'gwneud marc'

Image caption Gobaith Ken Rees ydi cynrychioli ei blaid ar Gyngor Sir Gaerfyrddin

Mae'r cyfnod cynadleddau gwleidyddol wedi cychwyn, a gyda'r etholiadau i ddewis cynghorwyr ar gyfer awdurdodau lleol Cymru yn nesáu,Cymru Fyw sy'n holi cynghorwyr am wleidyddiaeth leol a chenedlaethol, a'r gwaith o gynrychioli pobl.

Mae Ken Rees yn gobeithio cynrychioli UKIP ar Gyngor Sir Gaerfyrddin.

Fe wnaeth unig aelod seneddol UKIP, Douglas Carswell ymweld â grŵp UKIP yn y Cynulliad ddydd Iau, wrth i'r blaid gyhoeddi newidiadau i'w threfniadau mewnol dros y misoedd nesaf.

Nid oes gan y blaid arweinydd yng Nghymru ac nid oes ganddi gangen Gymraeg ar hyn o bryd. Gobaith UKIP ydi cwblhau'r newidiadau erbyn cynhadledd y blaid yn yr Hydref.

Cyn yr etholiadau lleol ym mis Mai, mae Cymru Fyw yn holi gwleidyddion o wahanol bleidiau am wleidyddiaeth leol a chenedlaethol, a'r gwaith o gynrychioli etholwyr.

Un sydd wedi rhoi ei enw ymlaen i fod yn ymgeisydd UKIP yn yr etholiad eleni ydi Ken Rees, ac mae'n gobeithio cynrychioli ei blaid ar Gyngor Sir Gaerfyrddin.

Ar y cyfryngau Cymraeg mae Mr Rees yn un o leisiau cymharol gyfarwydd UKIP, ac mae ganddo brofiad helaeth hefyd o lywodraeth leol.

Bu'n gynghorydd sir yn yr hen Ddyfed ac wedyn yn Sir Gaerfyrddin, a bu'n Faer Llanelli hefyd yn 2002.

Cyn hynny bu'n aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol - ond nawr does dim dwywaith mai egwyddorion UKIP sydd yn gyrru ei wleidyddiaeth.

'Nerth yn y cymoedd'

Mae'n ddyletswydd meddai "gofalu am dy blwyf dy hunan" ac mae'n "bleser ceisio datrys problemau pobl".

Ond mae UKIP yn parhau i fod y blaid anghonfensiynol - ac yn blaid sy'n rhannu barn yr etholwyr.

I Mr Reees dyw ei blaid ddim wedi cael y gydnabyddiaeth haeddiannol: "Yr her fwyaf ni fel UKIP yw bod pobl ddim yn deall yr ymdrech fawr mae UKIP wedi 'neud yn ddiweddar.

"Mae UKIP wedi llwyddo i gael ni allan o Ewrop, a nawr mae gormod o bobl sydd ddim yn derbyn y canlyniad."

Image caption Mae UKIP yn wynebu her wedi ymadawiad Nigel Farage, yn ôl Ken Rees

Ond mae'n obeithiol gall ei blaid wneud yn dda yng Nghymru, ar ôl perfformiad cryf yn etholiad Ewropeaidd gan ddod yn ail agos i Lafur yng Nghymru.

Ac mae yna le iddo fod yn obeithiol gan fod mwyafrif pobl Cymru wedi pleidleisio o blaid Brexit 'nôl ym mis Mehefin.

"Ni'n gobeithio gwneud yn dda, mae nerth 'da ni yn y cymoedd," meddai.

Ond mae'n cydnabod bod gwaith i'w wneud i argyhoeddi pobl bod Brexit yn beth da i'r economi ac i bocedi'r etholwyr.

"Yn y dyfodol ni'n gobeithio masnachu ag Ewrop heb ormod o drafferth, ond pan wnaethon ni ymaelodi â'r Undeb Ewropeaidd wnaethon ni gefnu ar ein ffrindiau rownd y byd a'r Gymanwlad fel Awstralia.

"Nawr mae cyfle 'da ni i fasnachu 'da nhw unwaith eto."

'Caru'r DU'

Ychwanegodd ei bod yn "anffodus" bod "pleidiau eraill yn ddig tuag aton ni" a hynny am eu bod yn "casáu'r gwir 'da ni wedi rhoi iddyn nhw".

"Rwy'n gystal Cymro ag unrhyw un yn Plaid Cymru, y gwahaniaeth yw fy mod i yn gallu edrych dros Glawdd Offa," meddai.

"Rydw i ishe edrych ar ôl y Deyrnas Unedig. Dyna dwi'n ei garu a dyna sy'n bwysig - cadw'r Deyrnas Unedig gyda'i gilydd."

Image caption Mae Mr Rees yn dweud bod diogelu'r DU yn bwysig iawn iddo

Dyw'r rhaniadau diweddar sydd wedi ymddangos yn rhengoedd UKIP ddim wedi synnu Mr Rees, gan fod y blaid yn "newydd".

"Mae Nigel Farage wedi gadael. Y broblem yw fe [Farage] oedd ar y teledu drwy'r amser - fe oedd yn cael y sylw i gyd. Doedd ei eilyddion ddim yn cael cyfle ar y pryd felly mae'n rhaid rhoi cyfle i'r rhai newydd."

Be' fydd llwyddiant eleni felly?

"Mae diwrnod yn amser hir mewn gwleidyddiaeth, ond ni'n gobeithio 'neud marc.

"Be sy'n fy mhoeni, mae pobl yn dechrau troi cefn ar wleidyddiaeth.

"Mae camarwain yn mynd ymlaen yn y media, be maen nhw alw e? Fake news?

"Be sy'n fy mhoeni yw mae pobl yn dechrau troi cefn ar wleidyddiaeth, ac mae pobl yn llyncu gormod o gelwyddau."

Mae'r manylion am yr holl ymgeiswyr ar gyfer Cyngor Sir Gaerfyrddin ar gael yma.

Straeon perthnasol