Gweddill ymgyrch Cwpan y Byd Cymru'n fyw ar S4C

  • 8 Mawrth 2017
gareth bale a shane long Image copyright Getty Images

Mae S4C wedi cadarnhau y bydd y gweddill ymgyrch Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia yn cael ei ddarlledu'n fyw ar y sianel.

Bydd hynny'n dechrau gyda'r gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Nulyn nos Wener, 24 Mawrth.

Fe fydd gweddill gemau'r ymgyrch - yn erbyn Serbia, Awstria, Moldofa, Georgia a Gweriniaeth Iwerddon unwaith eto - oll yn fyw yn Gymraeg ar S4C.

Cadarnhaodd y sianel ddydd Mercher eu bod wedi dod i gytundeb gyda deiliaid y drwydded swyddogol a'r prif ddarlledwyr yn y DU, Sky Sports.

Fe fydd 3,300 o gefnogwyr Cymru yn y stadiwm ar gyfer y gêm dyngedfennol ar ddiwedd mis Mawrth, gyda disgwyl i nifer yn fwy deithio i Ddulyn.

Ar hyn o bryd mae'r Gwyddelod ar frig y grŵp rhagbrofol gyda 10 pwynt, tra bo Cymru'n drydydd ar chwe phwynt.

Image copyright Getty Images
Image caption 0-0 oedd y sgôr y tro diweddaf i Gymru a Gweriniaeth Iwerddon gwrdd, ym mis Awst 2013

Gweddill gemau Cymru yng Ngrŵp D:

  • Gweriniaeth Iwerddon v Cymru - dydd Gwener, 24 Mawrth
  • Serbia v Cymru - dydd Sul, 11 Mehefin
  • Cymru v Awstria - dydd Sadwrn, 2 Medi
  • Moldofa v Cymru - dydd Mawrth, 5 Medi
  • Georgia v Cymru - dydd Gwener, 6 Hydref
  • Cymru v Gweriniaeth Iwerddon - dydd Llun, 9 Hydref

'Ymateb anhygoel'

Dylan Ebenezer fydd yn arwain y tîm cyflwyno ar gyfer yr holl gemau, gyda Nic Parry a Malcolm Allen yn y pwynt sylwebu, a'r cyn-chwaraewyr Owain Tudur Jones a Dai Davies yn dadansoddi.

Dywedodd Mr Ebenezer: "Mae hyn yn newydd cyffrous dros ben. Roedd yr ymateb i'r gemau o Ffrainc haf diwethaf ar S4C yn anhygoel a bydd ail gydio yn hynny yn wych.

"Mae'r ffaith bod y cyfan yn dechrau gyda gêm mor bwysig yn Iwerddon yn ychwanegu at y cyffro."

Ychwanegodd comisiynydd chwaraeon S4C, Sue Butler: "Rydym yn falch iawn mai ni yw'r unig ddarlledwr sy'n dangos gemau Cymru yn rhad ac am ddim yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018.

"Mae'n bleser gallu dilyn y tîm gyda gemau byw ar S4C unwaith eto, o gofio holl gyffro gorchestion tîm Chris Coleman yn Euro 2016."