Plentyn yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad yn Nyffryn Conwy

ambiwlans

Cafodd plentyn ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr yn dilyn gwrthdrawiad yn Nyffryn Conwy.

Roedd bws mini a beiciwr yn rhan o'r gwrthdrawiad ar ffordd rhwng Trefriw a Llyn Crafnant brynhawn Mercher.

Ddywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod wedi derbyn adroddiad tua 16:20 a'u bod ar y safle tan tua 19:30.

Cafodd y plentyn ei gludo i Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl.