Y cefndryd Celtaidd

irelND

Mae'r berthynas rhwng y gwledydd Celtaidd yn mynd nôl i oes y Mabinogi a chynt, gyda chysylltiadau ieithyddol a diwylliannol yn cael eu trafod yn aml.

Ond ydyn ni yng Nghymru yn rhoi gormod o bwyslais ar y berthynas ag Iwerddon ac yn rhamantu pethau?

Cafodd Cymru Fyw air gyda thri sydd mewn sefyllfa arbennig i roi barn ar sut mae'r Gwyddelod yn gweld y Cymry:


Gareth Morgan, golygydd newyddion i'r Irish Independent sy'n byw yn Nulyn

"Yn sicr mae'r Gwyddelod yn gofyn weithiau - beth YDY Cymru? Ar ôl eu brwydr hir am annibyniaeth, mae datblygiadau fel canlyniad Brexit yng Nghymru yn gwneud i'r Gwyddelod fynd yn hollol wallgo ar adegau.

"Maen nhw'n cwestiynu ble mae'r tân yn y bol? Ble mae'r asgwrn cefn? Maen nhw'n hoff iawn o alw fi'n 'Brit'- dim ond weithiau yn jocian.

"Mae'r Cymry yn dwli ar Iwerddon a dwi'n credu bod ni'n rhamantu pethau yn sicr, ond mae'n rhaid imi ddweud dwi wedi cael llawer o barch a diddordeb gan ffrindiau yma gan fy mod yn siarad Cymraeg.

"Mae llwyddiant yn y byd chwaraeon yn holl bwysig i'r Gwyddelod hefyd - ges i lawer o gefnogaeth yn ystod yr Euros a pharch pan mae tîm rygbi Cymru yn gwneud yn dda.

"Ond dwi'n aml yn cael amarch, nid cydymdeimlad, os yw Cymru'n colli… er hyn mae 'na berthynas well rhwng Iwerddon a Chymru na sydd efo'r Saeson!"


Yr actor a'r cerddor, Ryland Teifi, sy'n byw yn Iwerddon ers chwe mlynedd ac wedi priodi Gwyddeles

"Pan symudais i Iwerddon, sylweddolais fod gwybodaeth y Gwyddelod o Gymru efallai'n llai na'r Cymry am Iwerddon. Roedd hyn yn destun rhwystredigaeth ar y cychwyn yn enwedig pan o'n i'n clywed pobl yn cyfeirio at Brydain fel 'England'.

"Ar ôl cyfnod, wnes i ddarganfod mai camsyniad oedd hwn â'i wreiddiau mewn rhesymau hanesyddol, yn hytrach na bod yn sarhaus.

"Y gwir yw, dydyn nhw ddim yn gwybod cymaint amdanon ni. Mae Hollywood yn gwneud ffilmiau am eu harwyr nhw fel Michael Collins, ond beth am Owain Glyndŵr?

"Fe es i a fy nghyfaill Evan Grace i'r 'Steddfod ddwy flynedd yn ôl i berfformio a doedd e'n methu credu maint yr ŵyl. 'Where the hell did all the caravans come from?' oedd ei ymateb.

"Yr un yw'r ymateb i'r iaith Gymraeg. Mae llawer o fy nghyfeillion o'r Ynys Werdd yn eiddigeddus o faint o Gymraeg llafar sydd gennym. Fel ddywedodd cefnder fy ngwraig: 'We gained a country, you kept your language.'

"Mae'n dangos y gagendor sydd rhwng y 'brand' Gwyddelig a'r un Gymreig. Mae angen mwy o ddatganoli yn ein cyfryngau, syniadau a'n creadigrwydd - yn y ddwy iaith - i'r byd cael ein gwerthfawrogi a'n cefnogi."


Yr Athro Diarmait Mac Giolla Chriost, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, sy'n wreiddiol o Derry yng Ngogledd Iwerddon

"Yn hanesyddol mae'r Gwyddelod yn edmygu'r Cymry am y ffaith bod nhw wedi cadw eu hiaith yn fyw cystal, o'i gymharu â'r iaith Wyddeleg. Yng nghanol ac yn dilyn y frwydr am annibyniaeth daeth llawer o Wyddelod draw i Gymru i weld cryfder y Gymraeg dros eu hunain, ac fe wnaeth hynna nodweddu eu hagwedd at y Cymry.

"Mae'r Gwyddelod yn meddwl y dylen nhw fod yn dysgu gwersi o'r ffordd mae'r Gymraeg yn cael ei thrin a'i thrafod. Maen nhw erbyn hyn yn gyrru gwleidyddion a gweision sifil o Iwerddon [i Gymru] er mwyn arsylwi.

"Dwi'n meddwl bod y Cymry yn edmygu'r Gwyddelod am iddyn nhw allu rhoi eu hunain ar y llwyfan rhyngwladol. Gan fod mwy o Wyddelod - mae'r niferoedd yn rhan o'r rheswm, ond mae'r diwylliant hefyd, y gerddoriaeth draddodiadol a Riverdance ac ati - ac mae gan y Gwyddelod 'frand' sydd ddim efo'r Cymry.

"Efallai bod ychydig o sentimentaliaeth am y berthynas, ond wedi dweud hynny mae pob cenedl yn gwneud hynny - yn enwedig os ydyn nhw'n meddwl bod rhywbeth iddyn nhw elwa o'r berthynas. Fe all gyd-Geltiaid y Gwyddelod feddwl os allen nhw gael rhyw ran o'r brand yna y gallen nhw godi eu proffil yn rhyngwladol - dydi hynny ddim yn beth drwg.

"Mae yna 'bach o chwarae gemau gan bob cenedl ynglŷn â phwy maen nhw'n cyfrif fel ffrindiau a sut fath o berthynas sydd ganddyn nhw â gwledydd eraill, a phryd mae hynny'n siwtio nhw.

"Dydi rhai pobl yn ne Iwerddon ddim yn gweld y bobl yn y gogledd fel 'Gwyddelod go iawn'. Yng Ngogledd Iwerddon mae'r persbectif ychydig yn fwy gwleidyddol achos maen nhw wedi arfer trafod Prydeindod, gan fod rhai pobl yno yn galw eu hunain yn Brydeinwyr ac yn Wyddelod, ac eraill ond fel Prydeinwyr. Felly mae gwahanol bobl o Ogledd Iwerddon yn gallu uniaethu efo'r Cymry sy'n galw eu hunain yn Brydeinwyr, neu sy'n cyfri eu hunain fel Cymry yn unig.

"Yn ne Iwerddon bydda'r agweddau'n wahanol gan edrych ar hunaniaeth y Cymry yn nhermau mwy hanesyddol a gwleidyddol. Maen nhw'n deall bod gan Iwerddon hunaniaeth wleidyddol a gwladwriaeth ei hun, lle does gan Gymru ddim.

"Pan fo rhywun yn trafod chwaraeon fel rygbi maen nhw'n deall bod hunaniaeth i'r Cymry, lle mae pethau yn Iwerddon yn fwy cymhleth - mae un tîm rygbi i Iwerddon gyfan a dau dîm pêl-droed, un i'r gogledd ac un i'r de. Felly mae hunaniaeth o fewn Iwerddon yn rhywbeth digon cymhleth yn ei hun, heb sôn am sut maen nhw'n gweld y Cymry."