Casnewydd yn diswyddo eu rheolwr Graham Westley

  • 9 Mawrth 2017
Graham Westley Image copyright CameraSport

Mae Clwb Pêl-droed Casnewydd wedi diswyddo eu rheolwr, Graham Westley, ar ôl pum mis wrth y llyw.

Mae'r clwb ar waelod Adran 2, ac 11 pwynt i ffwrdd o adael safleoedd y cwymp.

Dywedodd y clwb y bydd yr is-reolwr, Dino Maamria hefyd yn gadael y clwb, gyda'r hyfforddwr Mike Flynn yn camu i rôl y rheolwr am weddill y tymor.

Wedi iddyn nhw golli o 4-0 yn erbyn Leyton Orient ddydd Sadwrn, roedd adroddiadau bod Casnewydd wedi rhoi dwy gêm i Westley achub ei swydd, cyn i'r bwrdd wadu mai dyma'r achos.

Pumed rheolwr ers 2015

Cafodd Westley wybod nos Fercher y bydd yn colli ei swydd, ac fe gafodd y chwaraewyr wybod fore Iau.

Fe wnaeth Westley gymryd lle Warren Feeney fel rheolwr ym mis Hydref 2016, ac roedd ganddo gytundeb nes diwedd tymor 2017/18.

Westley oedd pumed rheolwr parhaol Casnewydd ers i Justin Edinburgh adael i ymuno â Gillingham ym mis Chwefror 2015.

Bydd gêm gyntaf Flynn fel rheolwr dros dro oddi cartref yn Crewe ddydd Sadwrn.