Brexit 'yn bygwth' prosiectau ieithoedd lleiafrifol

  • 10 Mawrth 2017
Llyfrau
Image caption Mae bardd o Gwrdistan yn gweithio ar brosiect i drosi'r Mabinogi i'w iaith

Mae ysgolhaig wedi rhybuddio y byddai Brexit caled yn bygwth prosiectau i amddiffyn ieithoedd lleiafrifol.

Daw'r sylwadau wrth i fardd o Gwrdistan ddod i Brifysgol Aberystwyth i gyfieithu rhai o chwedlau'r Mabinogi.

Yn ôl yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones o Sefydliad Mercator, ni fyddai mentrau o'r fath yn digwydd heb arian Ewropeaidd.

Y llynedd, dywedodd yr Athro Jones wrth BBC Cymru Fyw bod cydweithio ar bolisi iaith yn "bwysicach nag erioed" wedi Brexit.

Image caption Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones yw cyfarwyddwr Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth

"Yn syml iawn, fyddai'r prosiect yma ddim yn gallu digwydd heb arian Ewropeaidd," meddai'r Athro Jones.

"Fyddai'r cysylltiadau sydd wedi bod yn sylfaen i'r prosiect yma ddim wedi gallu cael eu creu heb arian Ewropeaidd.

"Be' 'dan ni wedi'i weld dros y blynyddoedd diwethaf ym maes cyfnewid llenyddol a chyfieithu rhyngwladol yw bod arian Ewropeaidd yn aml iawn yn talu am y gweithgareddau hynny nad ydy gwledydd unigol yn fodlon buddsoddi ynddyn nhw."

Dywedodd y byddai Brexit caled - gyda chyfyngiadau posib ar allu dinasyddion i deithio - yn bygwth y gwaith yma.

"Mae cymaint o brosiectau rhyngwladol yn golygu bod rhaid i bobl symud o un wlad i'r llall, a 'dan ni'n pryderu'n fawr bod atal y rhyddid i deithio yn mynd i fod yn broblematig iawn ac yn mynd i wneud ein diwylliant ni yn dlotach o ganlyniad."

Image caption Y bardd Cwrdaidd Salih Agir Qoserî fydd yn cyfieithu rhai o chwedlau Cymru

Fe ddywedodd yr Athro Jones y byddai amheuon am allu rhywun fel Salih Agir Qoserî, sy'n cyfieithu rhannau o'r Mabiniogi i Kurmanji - yr iaith Gwrdaidd sy'n cael ei siarad yn Nhwrci.

Mae Mr Qoserî yn cydweithio â Caroline Stockford - cyfieithydd llenyddiaeth Dwrceg sy'n rhan o sefydliad PEN Cymru - ar y prosiect. Fe fydd hi hefyd yn trosi chwedlau o Kurmanji i'r Saesneg.

"Mae gwaith cyfieithu yn bwysig iawn y dyddiau yma", meddai Ms Stockford. "Mae Cymru'n wlad ryngwladol, mae ein outlook yn rhyngwladol a 'dyn ni'n gwneud ffrindiau.

"I rannu llenyddiaeth a diwylliant fel 'na, mae'n grêt. Ac mae'n bwysig ofnadwy i gefnogi Cwrdeg ar hyn o bryd, achos eu bod nhw'n trio lladd yr iaith."

Ynghyd â rhaglen Ewrop Greadigol yr UE, mae Cyngor Celfyddydau Cymru'n cyfrannu at ariannu'r prosiect.

'Cefnogi'r Gymraeg'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod yn gwneud "llawer iawn i gefnogi a hyrwyddo'r iaith Gymraeg" ac y bydd hyn yn "parhau ar ôl i ni adael yr UE".

"Rydyn ni wedi bod yn glir y byddan ni'n gwneud llwyddiant o adael yr UE, gan gynnwys ar gyfer ein prifysgolion gwych," meddai'r llefarydd.

"Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu y byddan yn gallu gwneud ein penderfyniadau ein hunain am sut dy'n ni'n cyflawni amcanion polisi oedd yn arfer cael eu targedu gan nawdd yr UE."

Straeon perthnasol