Gadael Cymru gyda £20

  • 13 Mawrth 2017
Sali Hughes

Mae Sali Hughes yn awdur, yn golofnydd, yn fam i ddau o blant, ac yn Gymraes balch. Mae hi wedi gwneud enw iddi hi ei hun ochr arall i Glawdd Offa fel newyddiadurwraig ac mae ganddi bellach golofn wythnosol yn y Guardian yn trin a thrafod harddwch. Bu hi'n siarad gyda BBC Cymru Fyw:


Gadael gartre'

Ges i fy magu yng Nghymoedd y Rhymni - yn Argoed i ddechrau ac yna yn Fleur de Lys. Ges i addysg Gymraeg yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Roedd Dad yn Saesneg ac yn posh - wel, roedd e'n dlawd ac yn common ond fe ddaeth e'n posh. Roedd Mam yn Gymraes a ddim yn posh o gwbl!

Nes i ddim gadael yr ysgol am fy mod i'n methu neu am 'mod i'n ei gasáu. Roedd fy rhieni yn ddarllenwyr mawr ac roedden nhw'n angerddol am eiriau. Nes i ddal y bug geiriau hefyd mae'n rhaid.

O'n i erioed yn teimlo'n gartrefol. Pan o'n i'n 11 oed ro'n i'n mynd ar y trên lawr i Gaerdydd ar ben fy hun i edrych ar ddillad ac ar golur. Ry'n ni'n siarad am 1990 felly doedd neb yn poeni rhyw lawer lle oeddech chi!

Fi'n cyfrif fy hun yn berson ofnadwy o wladgarol ond o'n i'n methu disgwyl gadael gartre'. Doeddwn i ddim yn hapus yno. O'n i moyn bod yn oedolyn. Yn y dyddiau hynny, o'n i'n methu bod y person o'n i eisiau bod yng Nghymru.

Ro'n i eisiau gweithio, ennill arian fy hun a chyfarfod pobl ddiddorol.

Fi'n berson preifat iawn. Ro'n i'n crefu anhysbysrwydd Llundain. Nes i adael am Lundain ar y trên yn 15 oed gyda £20 ges i fenthyg gan fy mrawd - nes i byth ddychwelyd.

Ro'n i'n gweithio fel cynorthwyydd colur gyda phobl fel The Pet Shop Boys ond ro'n i mor, mor dlawd am mor hir adeg hynny felly o'n i ddim wir yn gallu mwynhau'r cyfnod yn iawn.

Ro'n i wastad eisiau gweithio mewn newyddiaduraeth. Es i ar brofiad gwaith gyda chylchgrawn Loaded ar y dydd Llun a ges i gynnig swydd ar y dydd Mercher. Fydde hynny ddim yn digwydd erbyn hyn.

Y broblem fawr yw bod Llundain yn rhy ddrud. Os wyt ti'n berson normal yna alli di ddim byw yno fel nes i'r oed 'na.

Fi'n gweld gymaint o bobl yn mynd mewn i'r cyfryngau achos bod eu rhieni nhw'n gallu fforddio fflat iddyn nhw yng nghanol Llundain. Mae 'na lot o dalent yn llithro trwy'r rhwyd ac mae hynny'n eithriadol o drist.

Image copyright Instagram
Image caption Mae gan Sali Hughes dros 75,000 o ddilynwyr Instagram a dros 90,000 o bobl yn ei dilyn ar Twitter

Byddwn i wedi gadael Twitter pum mlynedd yn ôl os fydden i'n cael. Dim ond hyn a hyn o ymosodiadau all rhywun ei gymryd. Fi wedi cael pobl yn fy mygwth i, yn dweud dylai fy mhlant i fod â chywilydd ohona' i, pobl yn bygwth fy nhreisio i.

Mae'r papurau newydd, y cylchgronau a'r cyhoeddwyr yn poeni am nifer y dilynwyr yn fwy na fi - fi ddim yn meddwl bod y ffigyrau hynny o reidrwydd yn croesi draw i werthiant llyfrau.

Y Gymraeg

Pan nes i adael ysgol ro'n i'n gallu siarad Cymraeg i safon iaith gyntaf. Yn y pump i chwe blynedd ddiwetha' fi wedi colli fy hyder i gyd, i'r pwynt ble fi moyn mynd ar gwrs gloÿwi iaith.

Ro'n i'n arfer gwneud lot o waith radio yn Gymraeg - ro'n i'n gwylio S4C am gwpl o oriau cyn mynd ar yr awyr i gael fi fyny i speed ac o'n i'n fine. Ond fi methu gwneud 'na nawr.

Alla i ddim mynegi fy hun yn y ffordd alla i yn Saesneg. Ac mae hynny fel 'sgrifennu rhywbeth chi'n gwybod sy'n mynd i fod yn wael. Mae 'na sawl cyfle wedi dod fy ffordd i ond fi wedi gorfod eu troi nhw i lawr. Yr unig berson sy'n sefyll yn y ffordd yw fi.

Rwy'n Gymraes, ond mae fy mywyd i yn Lloegr ac wedi bod ers amser hir iawn. Mae fy ffrind gorau i yn byw yng Nghasnewydd ac mi fyddai'n dod i Gymru tua phedair gwaith y flwyddyn i'w gweld hi.

Ond fydda i ddim yn dod yn ôl i Gymru i fyw - ond mae hynny'n rhannol oherwydd fyddwn i byth eisiau mynd yn ôl i fyw i le bynnag ges i fy magu achos fydde fe'n teimlo fel cam yn ôl i fi.

'Ddim yn beirniadu'

Mi wna'i golli fy ngholofn ar ryw bwynt oherwydd fydda i'n rhy hen. Mae hynny'n bownd o ddigwydd.

Fi'n un o'r bobl leia' beirniadol - wir i chi! Mae pobl yn meddwl mod i'n beirniadu gwalltiau a dillad pobl oherwydd fy swydd ond alla i ddim pwysleisio ddigon mod i ddim! Dyle pobl wneud be' maen nhw moyn.

Rwy'n cael cynigion i gyfrannu i golofnau neu slots teledu yn aml i fod yn rhan o sgwrs am ferch sy'n gwisgo gormod o fake tan neu rywbeth. Mae merched wastad yn clywed be' sy'n bod arnyn nhw a dydw i ddim eisiau bod yn rhan o'r sŵn. Mae'n lot gwell gen i gyfrannu mewn ffordd bositif os alla'i.