Cam o'r tywyllwch

Canolfan ddydd yr Huggard
Image caption Canolfan ddydd yr Huggard

Mae hi'n broblem sydd ar gynnydd. Mae ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod nifer y bobl sy'n ddi-gartref yng Nghymru wedi codi. Er bod rhai o'r unigolion yn cael lloches mae 'na gynnydd yn nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd.

Aeth Cymru Fyw i Ganolfan Huggard yng Nghaerdydd i geisio gweld beth sydd wrth wraidd y broblem a beth sy'n cael ei wneud i ymateb iddi hi:


"Pan oeddwn i'n ifanc, fuasai neb wedi dyfalu y byddwn i'n cwpla lan fan hyn" meddai Kayleigh, a ddathlodd ei phen-blwydd yn 29 oed yn gynharach yr wythnos hon. "Roedd gen i job yn Boots, yn dod o deulu da, ond eto i gyd, dyma lle ydw i bellach" meddai yn edrych o gwmpas Canolfan Huggard yng nghanol Caerdydd, er ei bod hi'n dod yn wreiddiol o Gastell Nedd.

Heroin

"Fe ddechreuais i gymryd heroin a dyna sut y dois i yn ddi-gartref yn y lle cyntaf." Bellach mae Kayleigh yn mynd trwy'r broses o gefnu ar y cyffur ac yn cymryd methodone bob dydd.

"Ar hyn o bryd dim ond unwaith bob dau fis yr ydw i'n cael gweld fy nwy ferch fach, 10 a 7 oed, felly rwy'n gobeithio mewn amser y bydd modd i fi gael eu gweld yn fwy aml."

Yn ôl Richard Laydon, dirprwy Brif Weithredwr Canolfan Huggard, 'dyw achos Kayleigh ddim yn anghyffredin. Yr Huggard yw un o ganolfannau mwyaf Caerdydd ar gyfer y di-gartref ac mae'n cynnwys canolfan ddydd a hostel gydag 20 ystafell wely.

Dros y gaeaf, mae'r ganolfan yn rhoi lle i rhyw 20 o bobl ychwanegol gysgu dros nos ar lawr y ganolfan ddydd yn hytrach na bod allan yn yr oerfel.

"Mae'r rhesymau pam bod pobl yn cael eu hunain yn ddi-gartref yn amrywiol iawn, ac yn medru cynnwys problemau iechyd meddwl, cam-drin corfforol neu seicolegol, profedigaeth a galar, neu brinder yn narpariaeth llety y gellir ei fforddio" medd Richard.

'Storm berffaith'

"Mae newidiadau strwythurol sydd wedi bod yn y farchnad dai a llety yn golygu bod rhai pobl yn cael eu dal yn y 'storm berffaith' hon ac yn cwpla lan yn ddi-gartref.

"Yn sicr, mae 'na newid mawr wedi bod ym mhroffil y di-gartref dros y chwarter canrif diwethaf, gyda rhyw 25% o'r di-gartref bellach yn fenywod a'r proffil oedran tipyn yn iau nag oedd yn y gorffennol."

"Er nad yw pob person sy'n cysgu allan â phroblem gyda cham-ddefnyddio sylweddau," medd Richard, "mae rhai ohonyn nhw yn sicr, a does dim dwywaith nad yw bod yn ddi-gartref yn medru arwain at i rai pobl gam-ddefnyddio sylweddau sydd yn ychwanegu at eu problemau wrth gwrs.

Image caption Mae'r ardd yng Nghanolfan Huggard yn helpu unigolion i ddatblygu sgiliau newydd

Sgiliau newydd

Mae'r ganolfan yn ceisio cefnogi'r unigolion i roi trefn ar eu bywydau. Mae hynny yn gallu bod yn heriol yn ôl Richard Laydon

"Un broblem amlwg yw bod di-gartrefedd yn gallu dod yn 'ffordd o fyw' ynddo ei hun. Felly ry'n ni yn ceisio darparu patrwm newydd ar gyfer byw, ac mae pethau fel gardd y ganolfan, hyfforddiant yn y gegin a help i chwilio am waith a llunio CV yn bwysig iawn."

Mae natur y problemau sy'n wynebu pobl ddi-gartre yn y brifddinas wedi newid dros y degawdau. Un sydd wedi sylwi ar y patrwm yw Denzil John, gweinidog Capel y Tabernacl yn yr Aes yng nghanol Caerdydd.

Ers 35 mlynedd mae aelodau'r capel wedi bod yn darparu te bob prynhawn dydd Sul i bobl ddi-gartref y ddinas:

"Ar y dechrau roedd y bobl a oedd yn galw i mewn i'r capel i gael te yn grwydriaid nodweddiadol a cham-ddefnyddio alcohol yn broblem amlwg. Ro'n i'n arfer dweud flynyddoedd yn ôl mai'r keyless, roofless a'r clueless oedd yn troi i mewn i Tabernacl i gael te, ond mae'r darlun yn fwy cymhleth ac amrywiol bellach."

Mae ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar ddi-gartrefedd yn awgrymu bod y niferoedd sy'n cysgu yn yr awyr agored led-led Cymru wedi cynyddu 30% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Nid yn annisgwyl, Caerdydd oedd un o'r ardaloedd a brofodd y cynnydd mwyaf, ac er gwaetha ymdrechion y Cyngor ac elusennau fel y Wallich, y Rainbow Trust, YMCA a Byddin yr Iachawdwriaeth mae'n ymddangos bod y problemau yn cynyddu o hyd.

Mae Richard Laydon o Ganolfan Huggard yn cytuno bod y broblem yn un fawr, ond dyw e ddim wedi anobeithio:

"Mae'n wir mai dau gam ymlaen ac un yn ôl yw hi i lot o bobl ddi-gartref. Ond mae yna rai sy'n llwyddo i gael lle mewn hostel, yn llwyddo i gael gwaith, yn llwyddo i symud allan i un o'n tai yn y gymuned, yn camu ymlaen i gael eu cartref eu hunain a chael trefn ar eu bywydau, ac mae hynny yn ein hysbrydoli ni fel staff a gwirfoddolwyr yr Huggard i ddal ati i gynorthwyo'r gweddill o ddydd i ddydd."

Image caption "gall hyfforddiant yn y gegin gyda'r gwirfoddolwyr sy'n gweithio yno arwain at gymwysterau hylendid a phrofiad o goginio, sy'n ei dro yn medru arwain at swydd"