Cyfarfod i drafod rôl capeli mewn cymunedau Cymraeg

Meri Huws

Bydd aelodau o gyngor Undeb yr Annibynwyr yn cyfarfod gyda Chomisiynydd y Gymraeg ddydd Gwener i drafod rôl capeli mewn Cymunedau Cymraeg.

Bydd tua 30 aelod o'r cyngor yn trafod syniadau gyda'r comisiynydd Meri Huws yng Ngregynog er mwyn cyfrannu tuag at nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Gyda dros 400 o eglwysi'n perthyn i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a'r iaith yn ganolbwynt i'w gwasanaethau ar y Sul, mae aelodau yn awyddus i weld defnydd yn cael ei wneud o aelodaeth ac adeiladau'r capeli i hybu'r iaith a'r diwylliant Cymraeg yn eu hardaloedd.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb, Dr Geraint Tudur: "Byddai'n brosiect cenhadol o ran ein hiaith a'n ffydd, yn ffordd o adfywio eglwysi sy'n addoli ac yn cymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg.

"Bydd hefyd yn fodd i gau'r bwlch rhwng cymunedau ieithyddol sy'n byw bywydau cyfochrog mewn sawl ardal."

Image copyright Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
Image caption Mae Dr Geraint Tudur yn gobeithio y bydd y prosiect yn ffordd o "adfywio eglwysi"

'Estyn llaw'

Dywedodd Ysgrifennydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Alun Lenny wrth BBC Cymru Fyw bod gan y capeli rôl bwysig i chwarae mewn cymunedau.

"Mae cyflwr rhai o'n capeli ni yn ardderchog ac yn gyfforddus. Mae hi'n drueni mai dim ond unwaith neu ddwy mae'r adeiladau yn cael ei defnyddio yn ystod yr wythnos.

"Dwi'n aelod o gapel Bwlch y Corn, sydd ryw bum milltir i'r gogledd o Gaerfyrddin, mae nifer o bobl di-Gymraeg wedi symud mewn i'r ardal ac felly mi fysai cael syniadau ar ffyrdd i roi cyflwyniad meddal iddynt i'n iaith a'n diwylliant yn arbennig ac yn ffordd o estyn llaw i gymydog."

'Cyfle bendigedig'

Mae'r Comisiynydd Meri Huws wedi croesawu'r gwahoddiad i gwrdd â'r aelodau.

"Efallai ein bod ni wedi anghofio'r rôl sydd â chapeli i helpu sicrhau bod y Gymraeg yn parhau'n fyw yn ein cymunedau ar draws Cymru," meddai.

"Mae'n bosib ein bod ni, wrth feddwl am y capeli yn dirywio, wedi mynd i feddwl nad oes cyfraniad pwysig gyda nhw, ond mae 'na gyfle bendigedig fan hyn."

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yng Ngregynog, Powys am 13:30 ddydd Gwener.