Ben Davies yn arwyddo cytundeb newydd gyda Tottenham

  • 9 Mawrth 2017
Ben Davies
Image caption Mae Ben Davies yn chwarae i Tottenham ers 2014

Mae amddiffynnwr Cymru Ben Davies wedi arwyddo cytundeb newydd pedair blynedd gyda Tottenham Hotspur fydd yn ei gadw yn y clwb tan 2021.

Fe ymunodd Davies, sy'n 23 oed gyda Tottenham o Abertawe yn 2014.

Ers ymuno mae wedi chwarae 43 o weithiau i dîm Mauricio Pochettino sydd yn yr ail safle ar hyn o bryd yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Dywedodd Davies wrth wefan Tottenham: "Mae'n glwb arbennig i fod yn rhan ohono. Pe bai chi wedi dweud y baswn i'n gwneud hyn cyn i mi ddechrau chwarae pêl-droed mi fuaswn wedi bod mewn sioc".