Democratiaid Rhyddfrydol: 'Ffyddiog' am etholiadau lleol

  • 11 Mawrth 2017
Image copyright Democratiaid Rhyddfrydol
Image caption Mae Mark Cole yn hyderus y gall y blaid gynyddu nifer eu cynghorwyr ym mis Mai

Mae'r cyfnod cynadleddau gwleidyddol wedi cychwyn, a gyda'r etholiadau i ddewis cynghorwyr ar gyfer awdurdodau lleol Cymru yn nesáu,Cymru Fyw sy'n holi cynghorwyr am wleidyddiaeth leol a chenedlaethol, a'r gwaith o gynrychioli pobl.

Mae'r cynghorydd Mark Cole yn cynrychioli'r Democratiaid Rhyddfrydol ar Gyngor Ceredigion.

Yn dilyn canlyniad trychinebus y blaid yn etholiadau'r Cynulliad llynedd, gallech chi faddau i'r Democratiaid Rhyddfrydol am beidio â bod yn rhy obeithiol ar gyfer yr etholiadau lleol eleni.

Ond nid dyna mae Mark Cole, sydd wedi bod yn gynghorydd dros y blaid yng Ngheredigion ers 2004, yn ei gweld hi.

"Yn bendant, y bwriad yw cael mwy o gynghorwyr nag oedd gennym ni cynt," meddai.

Mae'n hawdd gweld o ble daw'r hyder, o gofio bod etholiadau lleol yn dir sydd yn draddodiadol yn llawer mwy ffrwythlon i'r Democratiaid Rhyddfrydol na rhai cenedlaethol.

Ac ers y bleidlais Brexit mae'r blaid wedi canfod eu llais unwaith eto wrth geisio cynrychioli'r rhai oedd o blaid aros yn Ewrop.

"Bydd teimlad ffyddiog yn y gynhadledd eleni," meddai Mr Cole, wrth i'r Democratiaid Rhyddfrydol gyfarfod yn Abertawe'r penwythnos hwn.

"Mae wedi bod yn gyfnod anodd yn y pum, chwe, saith mlynedd diwethaf, ac mae'r blaid wedi cymryd camau yn ôl yn anffodus oherwydd penderfyniadau gafodd eu gwneud pan oedden ni'n rhan o lywodraeth y glymblaid yn San Steffan.

"Ond ers y refferendwm mae'r blaid Brydeinig ac yng Nghymru wedi cynyddu mewn niferoedd, ac ry'n ni wedi ennill is-etholiadau cyngor ar draws y wlad."

Siarad am Brexit

A fydd Brexit yn bwnc trafod ar y stepen ddrws felly wrth i ymgeiswyr y Democratiaid Rhyddfrydol gnocio ar ddrysau Cymru y gwanwyn hwn?

"Nes i weld beth ddywedodd Leanne [Wood] yng nghynhadledd Plaid wythnos diwethaf a dwi ddim yn cytuno," mynnodd Mr Cole.

"Wrth gwrs bod pobl yn siarad am Brexit, dyma oedd penderfyniad mwyaf enfawr ein cenhedlaeth. Mae Mark Williams wedi bod yn siarad dros ein plaid ni yn San Steffan ar y mater, ac mae gennym ni bryderon mawr am y ffordd mae'r Ceidwadwyr yn arwain trafodaethau Brexit."

Nid bod trafodaethau am Ewrop yn mynd i hawlio'r sylw i gyd, gyda Mark Cole yn hyderus bod cynghorwyr ac ymgeiswyr y blaid â'u clust at y ddaear pan mae'n dod at y materion lleol fydd o bwys i bobl.

Image caption Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn groch o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd

"Rydyn ni'n gwybod beth sydd angen ei wneud a ni'n gweithio drwy'r flwyddyn, nid jyst adeg etholiadau," meddai.

"Byddwn ni'n canolbwyntio ar gefnogi economi Cymru, materion fel trafnidiaeth a gwasanaethau cyhoeddus, a lobïo i gael broadband gwell a signal ffôn symudol gwell.

"Byddwn ni hefyd yn canolbwyntio ar addysg, ac rydyn ni'n gefnogol iawn o Kirsty Williams [yr Ysgrifennydd Addysg] yn ei hymdrechion i leihau nifer y disgyblion mewn dosbarthiadau."

Biwrocratiaeth

Er bod gan Mr Cole dros ddegawd o brofiad fel cynghorydd bellach mae'n parhau i fod yn "fabi y cyngor", ac mae'n cyfaddef ei bod hi'n her perswadio pobl ifanc eraill i fod eisiau sefyll.

"Y brif broblem o hyd yw'r amser i wneud y gwaith - os yw rhywun mewn gwaith llawn amser mae'n anodd gwneud y gwaith ychwanegol fel cynghorydd," cyfaddefodd.

"Pan mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal gyda'r nos mae'n rhoi mwy o gyfle i bobl ifanc gymryd rhan - ond mae'r ateb yn wahanol i bob cyngor."

Image caption Mae'r blaid yn hapus â pherfformiad ei AC Kirsty Williams fel yr Ysgrifennydd Addysg, meddai Mark Cole

Does ganddo ddim awydd camu o'r neilltu ar hyn o bryd, meddai, ag yntau'n mwynhau gwneud y "pethau bach sydd yn gwneud lot o wahaniaeth i fywydau dydd i ddydd pobl".

Ond mae'n cyfaddef bod gwaith cynghorydd wedi mynd yn fwy rhwystredig dros y blynyddoedd diwethaf.

"Weithiau mae'n teimlo'ch bod chi'n bwrw eich pen yn erbyn y wal gyda'r holl fiwrocratiaeth, yn enwedig yn ddiweddar oherwydd bod arian yn lleihau - mae'r cyllidebau nawr yn dynn dros ben," meddai cyn-faer Aberteifi.

Mae'n anoddach cael y cyngor i wneud beth chi eisiau iddyn nhw wneud, gan fod rhaid iddyn nhw flaenoriaethu mwy nawr na 10 mlynedd yn ôl."

Mae'r manylion am yr holl ymgeiswyr ar gyfer Cyngor Ceredigion ar gael yma.