Chwilio am ganwr ifanc i berfformio â Syr Bryn Terfel

  • 11 Mawrth 2017
Bryn Terfel

Mae ymgyrch wedi dechrau i ganfod canwr ifanc i berfformio gyda Syr Bryn Terfel a dwy seren byd enwog arall y byd opera.

Bydd Syr Bryn yn perfformio'r opera clasurol Tosca yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn yr haf.

Mae'r trefnwyr yn ceisio dod o hyd i fechgyn i gael clyweliad am rôl yn y perfformiad.

Cafodd y bariton o Bant Glas ei urddo'n farchog gan y Frenhines ddydd Mawrth.

Bydd y tenor Kristian Benedikt o Lithwania a'r soprano Kristine Opolais o Latfia hefyd yn perfformio yn yr opera ym mis Gorffennaf, fydd yn rhan o ddathliadau'r Eisteddfod yn 70 mlwydd oed.