Chwe Gwlad: Merched Cymru 7-12 Merched Iwerddon

  • 11 Mawrth 2017
Hannah Tyrrell Image copyright CameraSport
Image caption Hannah Tyrrell yn sgorio ail gais y Gwyddelod

Fe wnaeth tîm rygbi merched Cymru golli eu trydedd gêm yn olynol wrth iddyn nhw gael eu trechu gan Iwerddon ym Mharc yr Arfau.

Roedd hi'n ddi-sgôr am y rhan fwyaf o'r hanner cyntaf cyn i Lindsey Peat sgorio cais i'r ymwelwyr ychydig cyn yr egwyl.

Daeth Cymru 'nôl yn yr ail hanner wrth i Shona Powell-Hughes groesi'r gwyngalch toc wedi hanner amser.

Ond cafodd buddugoliaeth y Gwyddelod ei sicrhau gan gais Hannah Tyrell ar ôl 62 munud.

Fel digwyddodd yng ngêm y dynion nos Wener, cafodd funud o gymeradwyaeth ei gynnal cyn y gic gyntaf i gofio am gyn-chwaraewr Cymru, Elli Norkett, fu farw yn 20 oed mewn gwrthdrawiad bythefnos yn ôl.