Uwch Gynghrair Lloegr: Hull 2-1 Abertawe

Abertawe Image copyright Getty Images

Fe wnaeth yr eilydd Oumar Niasse sgorio ddwywaith yn yr ail hanner wrth i Hull sicrhau buddugoliaeth bwysig yn erbyn Abertawe.

Dim ond ers ychydig funudau oedd y gŵr o Senegal wedi bod ar y cae pan sgoriodd ei gôl gyntaf ar ôl 69 munud.

Daeth ei ail naw munud yn ddiweddarach, cyn i'r amddiffynnwr Alfie Mawson sgorio gôl gwyr i'r Elyrch.

Er y fuddugoliaeth, mae Hull yn aros yn safleoedd y cwymp, ond maen nhw nawr o fewn triphwynt i Abertawe, sydd yn 16eg yn y tabl.