Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-1 Birmingham

Caerdydd Image copyright Athena
Image caption Sgoriodd Joe Ralls o'r smotyn i roi Caerdydd ar y blaen

Fe wnaeth gôl hwyr Lukas Jutkiewicz atal Caerdydd rhag cymryd y triphwynt wrth iddyn nhw gael gêm gyfartal yn erbyn Birmingham.

Aeth yr Adar Gleision ar y blaen yn yr ail hanner gyda chic o'r smotyn gan Joe Ralls, wedi i Sean Morrison gael ei lorio gan Ryan Shotton yn y cwrt cosbi.

Ond llwyddodd Birmingham i ddod yn ôl i sicrhau pwynt trwy gôl flêr Jutkiewicz yn y munudau olaf.

Mae'r canlyniad yn golygu bod y ddau dîm yn aros yn yr un safleoedd yn y bencampwriaeth - Birmingham yn 17eg a Chaerdydd yn 13eg.