Adran 2: Crewe 1-2 Casnewydd

Casnewydd Image copyright Huw Evans picture agency

Cafodd rheolwr dros dro Casnewydd, Mike Flynn y dechrau perffaith wrth y llyw wrth i'r clwb ar waelod Adran 2 sicrhau'r triphwynt yn Crewe.

Y tîm cartref oedd yn rheoli'r chwarae yn yr hanner cyntaf, ac aethon nhw ar y blaen ar ôl 22 munud trwy Callum Cooke.

Ond wedi'r egwyl yr ymwelwyr oedd y tîm gorau, wrth i Dan Butler ei gwneud hi'n gyfartal cyn i'r capten Joss Labadie sicrhau'r fuddugoliaeth yn y munudau olaf.

Er y canlyniad, mae Casnewydd yn parhau naw pwynt i ffwrdd o adael safleoedd y cwymp.