Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 0-2 Gateshead

  • 11 Mawrth 2017
National League Image copyright Getty Images

Mae Gateshead wedi symud i safleoedd y gemau ail gyfle yn y Gynghrair Genedlaethol gyda buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Wrecsam ar y Cae Ras.

Jordan Burrow sgoriodd y gôl gyntaf yn fuan wedi'r egwyl, cyn i Danny Johnson ychwanegu ail yn y munudau olaf.

Dyma oedd dim ond yr ail waith i Wrecsam golli yn eu 10 gêm ddiwethaf.

Mae'r canlyniad yn golygu bod y clwb o ogledd Cymru yn aros yn 10fed yn y tabl, naw pwynt o safleoedd y gemau ail gyfle.