Ceffylau gwedd: 'Cyfle gwych'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Ceffylau gwedd i'r Dwyrain Canol: 'Cyfle gwych'

13 Mawrth 2017 Diweddarwyd 07:31 GMT

Mae dau geffyl gwedd o Sir Benfro wedi cael cartref newydd - yn y Dwyrain Canol.

Mae JR a Joe wedi bod yn difyrru ymwelwyr ar Fferm Ceffylau Gwedd Dyfed yn Eglwyswrw ers rhai blynyddoedd, ond maen nhw nawr yn ymgartrefu ar ochr arall y byd.

Huw Murphy a Mark Cole o'r fferm fu'n egluro wrth BBC Cymru ei bod yn "fraint i ni fel teulu i weld hyn yn digwydd", ond bod teimladau cymysg o'u colli.