Chwe Gwlad: Dim newidiadau i Gymru i herio Ffrainc

  • 15 Mawrth 2017
Rob Howley Image copyright Getty Images

Nid yw hyfforddwr Cymru, Rob Howley wedi gwneud unrhyw newidiadau i'r garfan o 23 fydd yn herio Ffrainc ym Mharis ddydd Sadwrn.

Mae Howley wedi penderfynu cadw'r un tîm a enillodd yn erbyn Iwerddon nos Wener.

Bydd Ken Owens yn ennill ei 50fed cap dros ei wlad yn y gêm.

Wrth gyhoeddi'r garfan fore Mercher, dywedodd Howley: "Roeddwn i'n hynod o falch dros y chwaraewyr ar ôl y canlyniad a'r perfformiad nos Wener.

"Maen nhw'n haeddu'r cyfle i adeiladu ar hynny yn ein gêm olaf yn y Chwe Gwlad eleni.

"Roedd y profiad a ddaethon ni i'r gêm nos Wener yn hynod o bwysig, a bydd yr un mor bwysig wrth i ni wynebu tîm Ffrainc."

Tîm Cymru:

Leigh Halfpenny; George North, Jonathan Davies, Scott Williams, Liam Williams; Dan Biggar, Rhys Webb; Rob Evans, Ken Owens, Tomas Francis, Jake Ball, Alun Wyn Jones (c), Sam Warburton, Justin Tipuric, Ross Moriarty.

Eilyddion: Scott Baldwin, Nicky Smith, Samson Lee, Luke Charteris, Taulupe Faletau, Gareth Davies, Sam Davies, Jamie Roberts.

Gallwch ddilyn y gêm ar lif byw arbennig Cymru Fyw o 14:15 ddydd Sadwrn.