Morecambe 0-1 Casnewydd

Newport County Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Chwaraewyr Casnewydd yn dathlu'r gôl fuddugol

Mae Casnewydd wedi sicrhau buddugoliaeth allweddol dros Morecambe yn eu hymgais i aros yn yr Ail Adran.

Roedd y gêm yn ddi-sgôr ar yr egwyl, er i'r ymwelwyr greu nifer o gyfleoedd.

Ond fe ddaeth y gôl hollbwysig i'r Alltudion ar ôl 67 munud, wrth i Ryan Bird rwydo gyda chic o'r smotyn.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn codi o waelod y tabl, ac maen nhw bellach saith pwynt i ffwrdd o'r safleoedd sy'n ddiogel rhag y cwymp.