Cadarnhau Robert Page fel rheolwr tîm dan-21 Cymru

  • 15 Mawrth 2017
Robert Page Image copyright PA
Image caption Dechreuodd Rob Page ei yrfa rheoli gyda Port Vale

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau mai Robert Page fydd rheolwr newydd y tîm dan-21.

Bydd Page, a enillodd 41 cap dros Gymru, yn gyfrifol hefyd am y timau dan-19 a dan-17, gan olynu Geraint Williams yn y swydd.

Ers ymddeol fel chwaraewr mae'r gŵr 42 oed wedi bod yn reolwr ar Port Vale a Northampton, yn ogystal â hyfforddi gyda Nottingham Forest.

Mae gemau cystadleuol nesaf y tîm dan-21 ym mis Medi, pan fyddan nhw'n dechrau ar eu hymgyrch ragbrofol i geisio cyrraedd Pencampwriaethau Ewrop.

Ond cyn hynny bydd Cymru'n chwarae yn Nhwrnament Toulon, cystadleuaeth yr haf yma yn Ffrainc i dimau ieuenctid ar draws y byd.