Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ger Yr Wyddgrug

heddlu

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd ger Yr Wyddgrug ddydd Mercher.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 11:55 yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng moped a char Fiat 500 ar Ffordd Nercwys.

Cafodd yr ambiwlans awyr hefyd eu galw i'r digwyddiad, ond bu farw'r dyn oedd ar y moped yn y fan a'r lle.

Mae'r ffordd yn parhau i fod ar gau ar hyn o bryd.

Dywedodd y Rhingyll Emlyn Hughes o Uned Plismona'r Ffyrdd: "Rydym yn apelio am dystion wedi gwrthdrawiad yn ardal Tower Lodge ar Ffordd Nercwys.

"Roedd y moped yn teithio o gyfeiriad Nercwys tuag at Yr Wyddgrug, a'r Fiat yn teithio i'r cyfeiriad arall."

Mae'r heddlu yn gofyn wrth dystion i gysylltu ag Uned Plismona'r Ffyrdd ar 101.