Ben Woodburn, 17, yng ngharfan Cymru i herio Iwerddon

Woodburn
Image caption Woodburn yw'r sgoriwr ieuengaf yn hanes Lerpwl ar ôl rhwydo yn erbyn Leeds

Mae sgoriwr ieuengaf erioed Lerpwl, Ben Woodburn, wedi ei gynnwys yng ngharfan Cymru i herio Gweriniaeth Iwerddon yn rownd ragbrofol Cwpan y Byd 2018.

Cafodd Woodburn, 17, ei eni yn Nottingham, ond mae'n gymwys i chwarae i Gymru drwy ei nain.

Er iddo chwarae i dimau ieuenctid Cymru, nid yw wedi chwarae i'r tîm cyntaf hyd yma, a dywedodd is-hyfforddwr Cymru, Osian Roberts na fyddai Cymru'n brysio i roi cap iddo.

Hefyd wedi eu cynnwys gan Chris Coleman mae Gareth Bale ac Aaron Ramsey wedi anafiadau diweddar.

Yr unig chwaraewr arall yn y garfan sydd heb gael cap yw amddiffynnwr Milton Keynes Dons, Joe Walsh.

Carfan Cymru:

Wayne Hennessey, Danny Ward, Owain Fôn Williams;

Ben Davies, James Chester, James Collins, Joe Walsh, Chris Gunter, Jazz Richards, Neil Taylor, Ashley Williams;

Joe Allen, David Edwards, Andy King, Tom Lawrence, Joe Ledley, Shaun MacDonald, Aaron Ramsey;

Gareth Bale, Hal Robson-Kanu, Tom Bradshaw, Sam Vokes, Ben Woodburn.

Image copyright Getty Images
Image caption Daeth amddiffynnwr Milton Keynes Dons, Joe Walsh drwy academi Abertawe

Yn siarad wrth gyhoeddi'r garfan, dywedodd Chris Coleman nad oedd cynnwys Woodburn yn fater o geisio ei gadw i ffwrdd o Loegr.

"Roedd pawb wedi cyffroi dros Ben pan dorrodd i mewn i dîm Lerpwl, ond rydyn ni wedi cyffroi drosto pan oedd yn 13 oed," meddai rheolwr Cymru.

"Mae o yna am ei fod o'n haeddu.

"Rydyn ni wedi bod yn ei wylio ers pedair blynedd, doedden ni ddim yn poeni [amdano'n dewis Lloegr]."

Bydd Cymru yn wynebu Gweriniaeth Iwerddon mewn gêm hollbwysig yn yr ymgyrch ar 24 Mawrth.

Y Gwyddelod sydd ar frig Grwp D ar hyn o bryd, gyda Chymru'n drydydd.