Nid yw hon ar fap

Dydw i ddim yn gwybod pwy wnaeth benderfynu ail-gyhoeddi'r posteri barddoniaeth yna o'r saithdegau ond mae'n debyg bod 'na dipyn o fynd arnyn nhw unwaith yn rhagor. Yn sicr fe fyddai 'Hon' yn addas iawn i fur Aelod Cynulliad ar hyn o bryd. Os buodd na chilcyn o ddaear mewn cilfach gefn erioed, y Cynulliad yw hwnnw'r dyddiau hyn.

Wrth i Lywodraethau Llundain a Chaeredin fynd benben a'i gilydd ynghylch parhad y Deyrnas Unedig ac wrth i Ogledd Iwerddon wynebu ei hargyfwng cyfansoddiadol ei hun 'busnes fel arfer' yw hi yn y Bae gyda'r aelodau'n trafod, ymhlith pethau eraill, enwau lleoedd, comisiwn seilwaith a dileu'r hawl i brynu tai cymdeithasol. Mae'r rheiny i gyd yn bynciau o bwys ond bois bach, ble mae'r blaenoriaethu?

Fe fyddai'n annheg efallai i gymharu Carwyn Jones a'r ymerawdwr Nero. Wedi'r cyfan, hyd y gwn i, dyw Carwyn ddim yn berchen ar ffidl. Serch hynny, mae'r ymateb pwyllog neu'r diffyg ymateb i'r gwahanol argyfyngau sy'n wynebu'r wladwriaeth a'i blaid ei hun yn dipyn o ryfeddod.

Ond tra bod pethau oddi mewn i'r Siambr braidd yn fflat ar hyn o bryd, y tu hwnt i'r muriau mae 'na drafodaethau difyr i'w cael yn enwedig ynghylch oblygiadau brwydr Nicola Sturgeon a Theresa May i Gymru. Dywedodd un aelod Llafur i mi, er enghraifft, y byddai'n ystyried cefnogi annibyniaeth pe bai'n Albanwr ac y dylai Llafur Cymru ddechrau meddwl am beth ddylai statws Cymru fod pe bai'r Alban yn penderfynu torri ei chwys ei hun.

Yfory fe fydd Theresa May yng Nghaerdydd a gallwn ddisgwyl iddi chwythu'r utgorn unoliaethol wrth i gwestiynau cyfansoddiadol ddechrau dominyddu ein gwleidyddiaeth. Pa ymateb a ddaw o'r pleidiau eraill? Go brin fod galwad Plaid Cymru am 'sgwrs genedlaethol' yn ddigonol ac mae'r holl son gan Lafur am Gonfensiwn Cyfansoddiadol yn teimlo braidd yn amherthnasol erbyn hyn.

Onid yw hi'n bryd i rywun o'r chwith ddangos tipyn o arweiniad?