Gardd Ysbyty: 'Cysur i blant a rhieni'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Gardd Ysbyty Plant Cymru: 'Hafan i blant a rhieni'

17 Mawrth 2017 Diweddarwyd 06:54 GMT

Gall plant sy'n gleifion yn unig ysbyty plant Cymru chwarae yn yr awyr agored am y tro cyntaf diolch i ardd newydd sy'n cael ei hagor yn swyddogol ddydd Gwener.

Mae'r datblygiad gwerth £1.85m - sy'n cynnwys mannau eistedd, tŷ chwarae, drysfa a llithren - wedi cael ei gynllunio yn benodol i fod yn gymorth i blant wella ar ôl cael triniaeth.

Yn ôl Bethan Simmonds o elusen Arch Noa, yr ardd yw'r "geiriosen ar dop y gacen" a gall fod yn "hafan i blant a rhieni".