Siop elusen yn gwerthu offer trydanwr ar ddamwain am £1

Siop Catwel Image copyright Google
Image caption Roedd Mr Bickel yn gwneud gwaith yn siop Catwel pan gafodd yr offer eu gwerthu ar ddamwain

Mae siop elusen yng Nghaerdydd wedi gwerthu offer trydanwr am £1 yn unig wedi iddo eu gadael heb oruchwyliaeth.

Roedd Andrew Bickel, 39, yn trwsio goleuadau yn siop Catwel yn y Rhath ddydd Iau fel ffafr i'r elusen sydd yn canfod cartrefi newydd i gathod.

Dywedodd ei fod wedi mynd allan i nôl rhywbeth o'i fan, a phan ddychwelodd roedd ei offer gwerth £200 wedi cael eu gwerthu.

"Roedd y ddynes yn y siop wedi ypsetio'n lân," meddai Mr Bickel. "Yn ffodus allai chwerthin am y peth nawr."

'Chwerthin am y peth'

Yn ddiweddarach fe bostiodd Mr Bickel neges ar Facebook yn adrodd y stori, gan ddweud ei fod yn "ddoniol ond yn gynddeiriog".

Ar ôl i'r neges gael ei rannu'n eang cysylltodd cwmni trydanol o Gaerdydd ag e i gynnig set newydd o offer iddo am ddim.

Image copyright Andrew Bickel
Image caption Dywedodd Mr Bickel ei fod yn gallu "chwerthin am y peth" bellach

Dywedodd Mr Bickel fod y ddynes yn y siop wedi gwerthu'r offer ar ddamwain ar ôl i ddyn ddweud ei fod wedi dod o hyd iddynt heb label pris arnynt.

"Mae'n rhaid ei fod yn gwybod beth roedd e'n ei wneud," meddai Mr Bickel.

Er ei bod yn gallu "chwerthin am y peth" nawr, cyfaddefodd hefyd bod ganddo alergedd i gathod a'i fod yn "fwy o berson cŵn".