Cwmnïau yn cefnu ar gytundebau gofal cynghorau

Gofalwraig a chlaf Image copyright Getty Images

Mae dros hanner cynghorau Cymru yn dweud bod cwmnïau gofal wedi rhoi'r gorau i ddarparu eu gwasanaethau oherwydd cyfyngiadau ariannol.

Yn ôl y corff sydd yn cynrychioli busnesau gofal, mae nifer yn ymladd i gadw fynd ac yn wynebu argyfwng recriwtio wrth i ysbytai ac archfarchnadoedd gystadlu am weithwyr.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dweud bod yn rhaid i awdurdodau lleol gael fwy o arian i dalu cyflogau gwell i'r gweithwyr.

Dadl Llywodraeth Cymru yw eu bod wedi buddsoddi yn y sector, gan gynnwys rhoi mwy o gyllid fel bod cynghorau yn gallu cwrdd â'r cynnydd yn y cyflog byw cenedlaethol sydd yn dod i rym mis Ebrill.

Gofynnodd rhaglen BBC Week In Week Out wrth awdurdodau lleol faint o gwmnïau oedd wedi tynnu yn ôl o ddarparu pecyn gofal ar ôl cael cytundeb.

Dywedodd 13 o'r 21 cyngor wnaeth ymateb eu bod wedi wynebu'r sefyllfa yma.

Mae Colin Angel o Gymdeithas Gofal Cartref Prydain, sef y corff sydd yn cynrychioli cwmnïau gofal, yn dweud bod nifer o'u haelodau yn ei chael hi'n anodd i oroesi.

"Yr hyn rydyn ni'n clywed yng Nghymru yw bod rhai darparwyr mewn cyfyng gyngor, ac yn ceisio yn galed i ganfod ffordd i barhau fel busnes gyda'r cyfraddau maen nhw'n cael eu talu gan y cynghorau lleol."

Mae'n dweud bod peryg y bydd cwmnïau yn dod i ben, a hynny yn gyflymach mewn ardaloedd gwledig.

Un cwmni wnaeth orfod rhoi'r gorau i ddarparu gofal i gyngor Conwy oedd Cymorth Llaw.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Amanda Hopewell

Roedd y cyngor wedi cynnig talu £15 yr awr i'r cwmni, ond penderfynodd y busnes nad oedd hynny'n ddigon o arian.

Dywedodd pennaeth Cymorth Llaw, Ken Hogg: "Doedden ni ddim yn meddwl y bydden ni yn gallu darparu'r lefel yma o wasanaeth am y pris roedd Conwy yn gynnig. Ac mi oedden ni yn gyndyn iawn, iawn o adael ond mi oedd yn rhaid i ni adael.

"Ar ddiwedd y dydd, busnes ydyn ni. Mae'n rhaid i'n rheolwr banc fod yn hapus. Mae'n rhaid i ni wneud rhyw fath o elw ar ddiwedd y flwyddyn."

Mae Cyngor Conwy yn dweud eu bod wedi ymrwymo i gefnogi pobl fregus mewn cymunedau, er yr heriau ariannol.

Yn ôl Steve Thomas o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae cynghorau angen mwy o arian er mwyn gallu talu cyflogau gwell i ofalwyr.

"Fel mae hi, oni bai ein bod ni'n cael mwy o arian yn dod mewn i'r system mae gyda ni broblem fawr," meddai.

"Does 'na neb yn ymfalchïo yn y cyflog rydyn ni yn talu'r rhai sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol."

Image copyright iStock
Image caption Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw'n gweithredu i wella problemau recriwtio gofalwyr

Ym mis Mawrth cyhoeddodd Llywodraeth y DU £2bn yn ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol yn Lloegr, a £200m i Gymru.

Ond dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi penderfynu eto beth fyddan nhw'n gwneud efo'r arian.

Mae'r gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y maes, Rebecca Evans AC, yn dweud mai penderfyniad i gabinet Llywodraeth Cymru yw sut i wario'r arian ond eu bod nhw'n gweithredu i ddatrys problemau recriwtio ac y bydd cyflwyno cynllun gofrestru ar gyfer gweithwyr yn 2020 yn helpu.

"Bydd hynny yn rhoi'r clod dyledus i'r gweithlu, achos pan mae'n dod at edrych ar ôl ein pobl fwyaf bregus, pa swydd sydd yn fwy pwysig na hynny?

"Fe fydd hefyd yn rhoi cyfle i bobl yn y maes gael y cyfle i feddwl am ddatblygu eu gyrfa, achos dyw hynny ddim yn digwydd ar hyn o bryd."

Dywedodd hefyd eu bod wedi buddsoddi yn y sector i wella amodau gweithwyr.