Clwb rygbi Nantgaredig i trechu tîm rhyngwladol Sweden

Sweden
Image caption Dywedodd tîm Sweden eu bod wedi cael croeso cynnes iawn yn Nantgaredig

Mae tîm rygbi pentre' yn y gorllewin wedi bod yn herio tîm rhyngwladol Sweden mewn gêm arbennig ddydd Sadwrn.

Chwaraeodd clwb Nantgaredig yn erbyn Sweden ar ddiwrnod olaf pencampwriaeth y Chwe Gwlad, gan ennill 46-5, a hynny i nodi 50 mlynedd o fodolaeth y clwb.

Poblogaeth Nantgaredig yw ychydig dros 500 o bobl - o'i gymharu â phoblogaeth Sweden o 9.6miliwn!

Cafodd y gêm ei threfnu gan John George (JG) Phillips, sy'n hyfforddwr ac aelod o bwyllgor y clwb.

Ffrindiau

Mae clwb Nantgaredig ar hyn o bryd yn drydydd yn nhabl Adran 3 B o gynghrair Undeb Rygbi Cymru, ac mae eu gwrthwynebwyr arferol yn teithio o Lanbed, Llandeilo neu Rydaman.

Ar y llaw arall mae Sweden yn 57 ar restr detholion rygbi'r byd.

Mae Mr Phillips wedi chwarae rygbi yn Sweden, ac mae'n ffrindiau gyda rheolwr y tîm cenedlaethol, Neil Johnson.

Image caption Bu'r ddau dîm yn gwylio gêm Cymru yn erbyn Ffrainc ar ddiwedd yr ornest

Yr adeg yma o'r flwyddyn does dim glaswellt yn Sweden i'r tîm fedru chwarae arno, meddai Mr Phillips.

Ond mae ganddyn nhw gemau Ewropeaidd yn erbyn Latfia a Lithwania ar y gweill, ac felly angen ymarfer.

Maen nhw eisoes wedi chwarae un gêm gyfeillgar yng Nghymru, gan golli o 34-3 yn erbyn Athletic Caerfyrddin yn gynharach yn yr wythnos.

Dywedodd Neil Johnson - sy'n hanu o'r Alban ond wedi byw yn Sweden ers 1989 - fod y tîm wedi derbyn croeso cynnes iawn yn Nantgaredig.

Ychwanegodd mai rygbi yw'r gamp sy'n tyfu gyflymaf yn Sweden, ac maen nhw'n gobeithio y bydd strategaeth 10 mlynedd sy'n targedu rygbi ar lawr gwlad yn rhoi hwb pellach.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.