Carwyn Jones: Rhybudd am 'ryfel masnach' wedi Brexit

Carwyn Jones

Mae Prif Weinidog Cymru wedi rhybuddio y gallai "rhyfel masnach" ddatblygu rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig oni bai bod rheolau newydd yn cael eu sefydlu ar ôl Brexit.

Dywedodd Carwyn Jones mai dyma'r math o bwnc fydd angen ei drafod fel rhan o gonfensiwn cyfansoddiadol y Blaid Lafur ynghylch dyfodol y DU.

Bydd aelodau blaenllaw'r blaid o bob rhan o Brydain, gan gynnwys y cyn-brif weinidog Gordon Brown, yn bresennol yn y lansiad yng Nghaerdydd ddiwedd mis Mawrth.

"Nid wonkery cyfansoddiadol yw hyn, rydyn ni'n ceisio gwneud pethau i weithio'n well ar gyfer pobl gyffredin," meddai Mr Jones.

Image copyright Thinkstock

Mewn cyfweliad â rhaglen Sunday Politics Wales BBC Cymru, dywedodd y gallai anallu i osod rheolau masnach ar draws y DU ar ôl i'r wlad adael yr Undeb Ewropeaidd "gostio swyddi, gallai gostio llawer o arian, byddai'n effeithio ar bobl gyffredin, ac mae angen ei ddatrys cyn gynted ag y bo modd".

"Ar hyn o bryd mae 'na reolau. Mae 'na reolau'r UE sy'n rheoli'r hyn y gallwn ac na allwn ei wneud,"meddai.

"Os nad oes unrhyw reolau, fe fyddai 'na anhrefn. Mae hynny'n beth drwg ar gyfer unrhyw farchnad sengl."

Ond wrth ymateb dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: "Dwi ddim yn deall pam ei fod e wedi dweud y gallai arwain at ryfel masnach.

"Pan wnes i edrych ar y setliad cyfansoddiadol y tro diwethaf, doedd masnach na diwydiant wedi ei ddatganoli, na hefyd trafodaethau rhyngwladol."

'Rhannu grym'

Dywedodd Mr Jones y byddai'r frwydr i gadw'r Deyrnas Unedig yn gyflawn "yn cael ei golli" oni bai bod llywodraeth y DU yn dechrau gwrando ar y gwledydd datganoledig.

"Yr hyn yr ydym wedi dweud yw bod meysydd sydd eisoes yn gyfrifoldeb i Gymru a'r Alban a Gogledd Iwerddon, dylai fod yna broses o wneud penderfyniadau ar y cyd... mae'n rhaid i ni weithio allan pa reolau fydd yn rhan o farchnad sengl fewnol y DU a phwy sy'n eu plismona," meddai.

"Does dim angen sefyllfa lle mae popeth yn cael ei reoli gan San Steffan.

"Gallwn rannu grym yn y DU, gallwn barhau i fod yn sefydlog, gallwn barhau gyda'r Undeb, ond mae angen i lywodraeth y DU sylweddoli hynny nawr neu bydd y frwydr yn cael ei golli."

Galwodd y prif weinidog am gonfensiwn cyfansoddiadol ar gyfer y DU gyfan bum mlynedd yn ôl.

Bydd y ffigyrau amlwg o bob rhan o Brydain, gan gynnwys y cyn-brif weinidog Gordon Brown, yn bresennol yn y lansiad yng Nghaerdydd ar ddiwedd mis Mawrth.

"Ro'n ni ymhell ar y blaen gyda hyn. Fe wnaethon ni gydnabod amser maith yn ôl yr heriau fyddai'n wynebu'r DU," ychwanegodd Mr Jones.

"Mae hyn yn nwylo Whitehall. Mater i Whitehall a yw'n gwrando'n ddigon astud er mwyn cadw'r DU yn gyflawn."

Yn dilyn galwadau Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon i gynnal ail refferendwm annibyniaeth yr Alban, dywedodd Carwyn Jones y byddai'n "drasiedi i Gymru os byddai'r Alban yn gadael" y DU.

"Mae'r Alban yn wrth-gydbwysedd defnyddiol yn y DU. Nawr, fe wnes i rybuddio cyn y refferendwm Brexit fod gan Brexit y potensial i rwygo'r DU a dyna sydd wedi digwydd.

"Mae yna ffyrdd o sicrhau bod y DU yn aros gyda'i gilydd ond mae angen i lywodraeth y DU ddechrau gwrando nawr."

Mae Plaid Cymru wedi beirniadu cyhoeddiad y prif weinidog, gan ychwanegu bod angen confensiwn cyfansoddiadol ei hun ar Gymru.

Dywedodd Adam Price, llefarydd economi'r blaid: "Dyna'r math o arweinyddiaeth y dylem fod yn gweld gan brif weinidog Cymru, yn arwain sgwrs genedlaethol yn ystod y cyfnod ansicr yma pan ry'n ni'n mynd i adael un Undeb, yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'n edrych fel pe bai ni'n mynd i adael un arall yn yr ystyr bod y DU yn dod i ben, o bosibl ymhen dwy flynedd.

"Ac eto ble mae'r weledigaeth ar gyfer beth mae hyn yn ei olygu i Gymru? Dyna'r confensiwn y dylem fod yn ei chael a fyddai'n cynnwys y pleidiau oll, ar draws Cymru gyfan, pob rhan o gymdeithas, gan ofyn ble rydym am gymryd ein cenedl?

"Yn hytrach na'r Blaid Lafur yn siarad â'i hun, pam nad yw'n siarad â'r gweddill ohonom?"

Dywedodd arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad, Neil Hamilton ei fod yn credu y byddai Brexit yn arwain at "mwy o bwerau" i'r sefydliadau datganoledig, tra bod arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Mark Williams wedi croesawu'r confensiwn.

Bydd Sunday Politics Wales yn cael ei darlledu ar BBC One Cymru ddydd Sul, 19 Mawrth am 11:00.