Caerdydd 3-1 Ipswich

Joe Bennett Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Joe Bennett yn dathlu'i gôl gyntaf dros y clwb

Mae Caerdydd wedi ennill am y tro cyntaf mewn pum gêm yn dilyn buddugoliaeth dros Ipswich.

Rhoddodd Luke Chambers yr ymwelwyr ar y blaen ar ôl 25 munud, ond unionwyd y sgôr gan Kenneth Zohore ddeng munud yn ddiweddarach.

Yn fuan wedi'r egwyl cipiodd Zohore ei ail i roi Caerdydd ar y blaen, cyn i Joe Bennett sgorio ei gôl gyntaf dros y clwb.

Mae'r Adar Gleision yn aros yn 13eg yn y Bencampwriaeth yn dilyn y canlyniad.