Casnewydd 1-3 Blackpool

Scott Bennett a Nathan Delfouneso Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Casnewydd yn parhau i fod saith pwynt i ffwrdd o'r safleoedd diogelwch yn Adran Dau ar ôl colli yn erbyn Blackpool.

Bright Osayi-Samuel oedd sgoriwr y gôl gyntaf i roi'r ymwelwyr ar y blaen ar ôl 18 munud, cyn i Mark Cullen ddyblu'r fantais gyda chic o'r smotyn yn yr ail hanner.

Llwyddodd Alex Samuel i rwydo gyda chwarter awr i fynd i roi llygedyn o obaith i'r Alltudion.

Ond wrth iddyn nhw bwyso am ail fe ddaeth cyfle arall i Osayi-Samuel, a sicrhaodd y fuddugoliaeth i Blackpool.